Y math o wersi rydym yn eu cynnig
Gwersi Nofio i Blant
Rydym yn darparu gwersi nofio i blant o 3 mis oed ar gyfer plant sydd am ddysgu’r sgil hwn sy’n achub bywydau.
Gwersi Hybu Nofio
Gallwn ddarparu sesiynau mwy dwys yn bennaf yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn carlamu cynnydd eich plentyn.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Sesiynau Strwythuredig
Mae ein hyfforddwyr cymwys yn dilyn Llwybr LTS Nofio Cymru.
Hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol
Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno Llwybrau Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac wedi cael gwiriadau DBS llawn.
Gwersi drwy gydol y flwyddyn
Mantais ein rhaglen 50 wythnos yw y bydd plant yn dysgu nofio ac yn symud drwy’r camau yn gyflymach a bydd gwersi wythnosol rheolaidd yn gwella cysondeb y dysgu.
Nofio am ddim
Mae nofio am ddim ar draws Powys wedi’i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn
Ein partneriaeth â Nofio Cymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.
Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfleusterau Cysylltiedig Eraill Yn Ein Canolfan
Loceri a Chawodydd
Mae gan Ganolfan Chwaraeon Llanfyllin gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â £1 ar gyfer eich locer!
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
Barod I Ymuno â'n Hysgol Nofio?
Mae ein cydweithwyr gwych yn barod i gamu i mewn a'ch helpu i ddechrau ar eich gwersi nofio. I ddod yn aelod o gymuned Freedom Leisure Powys, holwch heddiw!