Cadw’n Ffit Waeth Beth Fo’ch Diddordebau
Aelodaeth
Ni yw’r gymuned actif fwyaf ym Mhowys ac mae ein cynlluniau aelodaeth mynediad llwyr ar draws y sir yn cynnig ffordd o gadw’n iach a chyrraedd eich nodau sy’n werth gwych am arian, ym mhob cwr o Bowys.
Ein Cydweithwyr Cyfeillgar
Mae’r hyfforddwyr ffitrwydd cymwys ar gael i’ch tywys trwy’r cyfarpar a’ch helpu gwireddu eich nodau a dyheadau.
Talu a Chwarae
Yn wahanol i rai canolfannau, nid oes rhaid ichi fod yn aelod er mwyn defnyddio ein cyfleusterau ffitrwydd, a gallwch dalu a chwarae. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio’r canolfan fwy nag unwaith yr wythnos, hwyrach y bydd ymaelodi’n fwy cost effeithiol ichi yn y pen draw.
Straeon Llwyddiant
Mae ein tystebau cwsmeriaid yn llawn straeon llwyddiant gan bobl go iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w hiechyd corfforol a meddyliol.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Ein cydweithwyr cyfeillgar
Bob amser wrth law i'ch croesawu i Ganolfan Chwaraeon Llanfyllin. Rydym yma i gynnig cyngor ar sut i gael y gorau o'ch ymweliad â'r gampfa.
Campfa â chyfarpar da
Mae ein hoffer yn gyfuniad o beiriannau fel melinau traed, traws-ymarfer a dringwyr ynghyd â pheiriannau ymwrthedd pwysau eraill sydd wedi'u cynllunio i hyfforddi…
Fe wnawn eich helpu i ddechrau
I'ch cynefino â'n campfa ac i gael y gorau allan o'ch ymweliadau, byddwn yn rhoi cyflwyniad byr i chi i'r gampfa. Dylech drefnu hyn gydag aelod o'r tîm ar eich…
Loceri a Chawodydd
Mae gan Ganolfan Chwaraeon Llanfyllin gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â £1 ar gyfer eich locer!
Wyddech chi?
Mae llai o risg datblygu cyflyrau hir dymor (cronig), fel clefyd y galon, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser, os yw pobl yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Mae ymchwil yn dangos fod gweithgaredd corfforol hefyd yn gallu hybu hunan barch, tymer, ansawdd cwsg ac ynni, yn ogystal â lleihau eich risg o stres, iselder clinigol, dementia a chlefyd Alzheimer.
Ein Oriau Agor
Mae ein campfa ar agor 6 diwrnod yr wythnos
Dydd Llun-Dydd Gwener 7:00-8:30 a 15.45-21.30
Dydd Sul 10.00-15.00