Ein Neuadd Chwaraeon

Ein Neuadd Chwaraeon

Gall y brif neuadd chwaraeon ddarparu lle ar gyfer yr holl chwaraeon traddodiadol byddech yn eu disgwyl, gan gynnwys:

  • Badminton (4 cwrt)
  • Pêl-droed
  • Pêl-fasged
  • Pêl foli
Ein Campfa

Ein Campfa

Mae’r gampfa yn ddigonedd o le pwrpasol ar gyfer ein rhaglen ymarfer corff grŵp gan gynnwys dosbarthiadau fel:

  • Zumba
  • Conga
  • Ioga
  • Beicio Dan Do Freedom
Manteision Beicio Dan Do

Manteision Beicio Dan Do

Mae'n ymarfer corff effeithiol iawn o ran cardio a chryfder. Mewn un dosbarth 45 munud, byddwch yn reidio beic llonydd gan ddilyn curiad cerddoriaeth anhygoel ac yn llosgi hyd at 600 o galorïau yn y broses.

Bydd eich ysgyfaint yn pwmpio, a byddwch hefyd yn gweithio cyhyrau eich ffolennau, crothau coesau, cwadiau, llinynnau'r garrau, ac yn adeiladu eich cyhyrau craidd. Mae'n sicr bod beicio dan do yn ddwys a chyflym, ond mae'n chwaraeon gwych ar gyfer unrhyw lefel ffitrwydd.

Sut I Archebu

Sut I Archebu

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynnig cyfleusterau dan do fforddiadwy sy’n hygyrch i bawb. Ni yw un o’r ychydig glybiau ble y gallwch archebu cwrt a ‘thalu a chwarae’ heb aelodaeth fisol. Mae ffioedd llogi cwrt yn ddibynnol ar y gweithgaredd, hyd yr amser, ac oedran y cwsmer.

Pam Chwarae Gweithgareddau Dan Do yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod?