Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt
-
Amseroedd Agor
- Dydd Llun 6:15 - 21:00
- Dydd Mawrth 6:15 - 21:00
- Dydd Mercher 6:15 - 21:00
- Dydd Iau 6:15 - 21:00
- Dydd Gwener 6:15 - 21:00
- Dydd Sadwrn 8:00 - 15:00
- Dydd Sul 8:00 - 15:00
Croeso i Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe, Freedom Leisure sy’n rheoli Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt. Ein nod yw "gwella bywydau trwy hamdden", darparu cyfleusterau fforddiadwy, cynhwysol a chynaliadwy i’r gymuned gyfan eu mwynhau.
Ein cyfleusterau
Lawrlwythwch ein Ap
Mae ein Ap yn hwyluso archebu dosbarthiadau a gweithgareddau yn gyflymach ac yn haws nac erioed. Ydych chi eisoes yn aelod neu wedi cofrestru ar gyfer archebu ar-lein? Lawrlwythwch ein Ap nawr! Heb gofrestru eto? Cysylltwch â’ch canolfan leol i gofrestru.
Ein Haelodaeth
Gweithgareddau ar y Gweill
Newyddion Diweddaraf
Cymunedau Iach
Rydym eisiau cefnogi iechyd y genedl gan alluogi pobl i fyw bywydau hirach, hapusach ac iachach.
Fel ymddiriedolaeth hamdden elusennol nid-er- elw, mae helpu unigolion a chymunedau i fod yn fwy actif ac yn iachach wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’, rydym eisiau i’n cymunedau lleol ni gael hwyl, cael eu croesawu a’u cynnwys a’u grymuso i fyw bywydau iach.
Cwestiynau Cyffredin
Nid oes angen ichi fod yn aelod i ymweld â’r canolfan, er hynny, byddem yn eich cynghori i ymaelodi, oherwydd drwy hyn cewch fynediad at fanteision ychwanegol yn ogystal â chynnig gwerth gwych am eich arian.
Mae’r gampfa ar agor 06:15 – 21:00 yn ystod yr wythnos, a rhwng 08:00 – 15:00 ar y penwythnos
Gallwch - gallwch barcio am ddim, tu allan i’r canolfan tra byddwch yn defnyddio ein cyfleusterau.
Rydym yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau, felly byddwch yn siŵr o gael hyd i rywbeth sy’n addas ichi. Gallwch fod yn sicr y cewch amser gwych yn magu ffitrwydd a gwella eich hunanhyder. Rydym yn cynnig dros 30 o ddosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwyr bob wythnos.
Gallwch archebu lle ar-lein neu ein ffonio ar 01792 235040
Rydym yn cynnig aelodaeth ffitrwydd iau o 11 oed
Mae nifer o aros fannau bysiau y gallwch gerdded oddi wrthynt i’r canolfan.
Nid oes pwll nofio yma, ond mae’r pyllau agosaf ar gael yn ein canolfannau ym Mhenyrheol, Penlan, Treforys ac LC Abertawe, ac mae pob un ohonynt yn cynnig ystod o weithgareddau nofio gwahanol a gwersi nofio.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Tîm gwych - dwi wrth fy modd yn mynd i'r dosbarthiadau - maen nhw'n ei wneud yn gymaint o hwyl. Campfa dda hefyd. Rwyf bob amser yn dweud wrth….
Anonymous
Mae'r staff yn gwrtais, yn gyfeillgar ac maent bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi. Awyrgylch campfa gwych a mwynhewch….
Mary B.
Rwy'n defnyddio'r ganolfan 4 gwaith yr wythnos ar gyfer y gampfa. Cartref o gartref. Staff gwych a chyfleusterau gwych..
Sharon D
Tîm ardderchog. Cyfeillgar iawn. Gwybodus iawn. Clod i Freedom Leisure..
Tom P
Sut gallwn fynd gam ymhellach yn Freedom?
Sut i ddod o hyd i ni a pharcio
Mae teithio i’n canolfan yn hawdd, ac mae llawer o wahanol opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i’ch helpu i gyrraedd yma!
Rydym am gyflogi! Dewch i ymuno â’r tîm
Mae’r gwasanaethau hamdden yr ydym yn eu cynnig yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn gwneud gwir wahaniaeth i iechyd a llesiant pobl ar lefel leol iawn. Mae gweithio i Freedom Leisure yn eich galluogi chi i chwarae rôl gadarnhaol, leol iawn, a gwella bywydau drwy hamdden a gwneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned.