Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Darland
Croeso i Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Darland
Freedom Leisure mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n gyfrifol am Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Darland. Mae yna neuadd chwaraeon, campfa ac Ystafell Bwyllgor ar gyfer digwyddiadau penodol neu reolaidd.
Deunydd Hyrwyddo Presennol
Gimme Five – 5 ymarfer am £14.99 yn unig
Y mis Mawrth hwn mae cyfle i chi gael 5 ymarfer am £14.99 yn unig. Mae hynny'n llai na £3 yr ymarfer!
Gweld y Cynnig3 mis am ddim!
Rhowch ddechrau arni gyda'n cynigion aelodaeth! Ymunwch â'n cymuned iach y mis hwn a dechrau gyda 3 Mis Am Ddim
Gweld y CynnigA oes sgiliau nofio gan eich plentyn ac a yw’n ddiogel?
Mae plant yn dysgu nofio am ei fod yn hwyl. Mae’n rhoi lle iddynt fod yn gymdeithasol, mynegi eu teimladau a chyflawni a datblygu sgiliau newydd.
Gweld y CynnigEin Haelodaeth
Newyddion Diweddaraf
Iechyd i Bawb o Bob Oed
Rydym eisiau cefnogi iechyd y genedl gan alluogi pobl i fyw bywydau hirach, hapusach ac iachach.
Fel ymddiriedolaeth hamdden elusennol nid-er- elw, mae helpu unigolion a chymunedau i fod yn fwy actif ac yn iachach wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’, rydym eisiau i’n cymunedau lleol ni gael hwyl, cael eu croesawu a’u cynnwys a’u grymuso i fyw bywydau iach.
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Oes, mae digon o le i barcio.
Nid yma ar hyn o bryd ond gyda’r cynllun aelodaeth cysylltiedig gallwch fynd i ddosbarthiadau yng nghanolfannau eraill Wrecsam.
Ffoniwch ni ar 01978 269540 neu e-bostiwch darland@freedom-leisure.co.uk
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Nid yma ond rydym yn cynnig gwersi nofio yng Nghanolfan Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Daliais y byg ffitrwydd yn gyflym a dechreuais fuddsoddi yn fy siwrnai ffitrwydd..
Lauren E
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Mae’n swnio’n ystrydeb ond mae cael y cartref newydd hwn i ymarfer corff wedi bod yn chwa o awyr iach yn llythrennol i’m bywyd.
Graeme B
Ym mha ffordd rydyn ni’n mynd gam ymhellach yn Freedom Leisure?
Sut i ddod o hyd i ni a Pharcio
Mae’n hawdd teithio i’r ganolfan ac mae digon o le i barcio ar y safle. Mae’r ganolfan ar safle Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd, ar Chester Road ar y ffordd allan o Wrecsam rhwng The Golden Lion a’r Grosvenor yn Pulford.
Rydym am gyflogi! Dewch i ymuno â’r tîm
Mae’r gwasanaethau hamdden yr ydym yn eu cynnig yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn gwneud gwir wahaniaeth i iechyd a llesiant pobl ar lefel leol iawn. Mae gweithio i Freedom Leisure yn eich galluogi chi i chwarae rôl gadarnhaol, leol iawn, a gwella bywydau drwy hamdden a gwneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned.