Gwersi Nofio

Gwersi Nofio

Gwersi Treialu Nofio:

Ewch ati yr haf hwn gyda gwersi nofio wythnosol am 6 wythnos i nofwyr newydd (Ton 1 neu 2). £42

16:00 - 16:30 bob dydd Mercher. Mae’n ofynnol archebu gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Gwersi nofio un i un:

Mae’r gwersi nofio hyn yn addas i ddechreuwyr neu’r sawl sydd am wella ac ennill hyder neu ddatblygu techneg dull nofio.

Nofio

Nofio

Sesiwn i’r Teulu (Cafn ar gael) – Gweler amserlen y pwll am sesiynau – o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:00-11:00, dyddiau Sadwrn 12:15-13:15 a dyddiau Sul 9:30-11:00

Mania Dŵr (Cafn a Dŵr Cyflym ar gael) – gweler amserlen y pwll am sesiynau – o ddydd Llun i ddydd Gwener 12:45-13:45 a 13:45-14:45, dyddiau Sadwrn  13:15-14:15 a 14:15-15:15. Dyddiau Sul 11:00-12:00 a 12:00-13:00

Nofio am ddim – Iau nag 16 oed – Gweler amserlen y pwll am sesiynau

Rhaid i bob plentyn iau nag 8 oed fod yng nghwmni oedolyn ar sail 1:1. Rhaid i nofwyr allu nofio’n hyfedr am 50m mewn dŵr dwfn i gael mynediad i’r dŵr cyflym.

CYNNIG ARBENNIG! Cardiau teyrngarwch tocyn Mania Dŵr i’r Teulu ar gael. Talwch am 5 sesiwn a chael 1 (mynediad tebyg at debyg) AM DDIM!

Mania Castell Gwynt

Mania Castell Gwynt

Bob dydd Sadwrn 9:00-12:00 £4.50 (£2 gyda thocyn nofio y talwyd amdano), £2 ar gyfer yr Ysgol Nofio ac aelodau Iau.

Gwersyll Gweithgareddau Gwyliau’r Haf

Gwersyll Gweithgareddau Gwyliau’r Haf

Clwb gweithgaredd aml-chwaraeon, gemau a chwaraeon amrywiol ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio dydd Llun 25 Awst) 9:00-15:30

Pris: £20 diwrnod llawn,  £10 hanner diwrnod (9:00-12:00 neu 12:00-15:30)

Canllaw oedran: 6-12 oed

*Yn cynnwys nofio i blant 8+ oed. Mae’n ofynnol archebu lle gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.