Y math o wersi rydym yn eu cynnig
Gwersi Nofio i Blant
Rydym yn darparu gwersi nofio i blant o 3 mis oed ar gyfer plant sydd am ddysgu’r sgil hwn sy’n achub bywydau.
Gwersi Nofio i Oedolion
Rydym yn cynnig gwersi nofio os ydych chi’n ddechreuwr neu am wella strôc ar gyfer y nofiwr mwy profiadol.
Gwersi Hybu Nofio
Gallwn ddarparu sesiynau mwy dwys yn bennaf yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn carlamu cynnydd eich plentyn.
Gwersi Nofio Preifat
Neu os fyddai’n well gennych chi neu eich plentyn gael amgylchedd un i un mwy preifat yna gallwn ni helpu.
Achubwr Bywyd Rookie
Mae rhaglen Achubwyr Bywyd Rookie RLSS UK yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar blant i fod yn hyderus yn y pwll neu'r môr a chyfle i fwynhau dŵr yn ddiogel. Mae'r cwrs yn cynnwys tair gwobr sy'n addas i'r rhai sydd wedi cwblhau WAVE 8 o'n Cynllun Dysgu Nofio.
Sgwad Perfformiad Iau (JPS)
Mae ein Sgwad Perfformiad Iau yn gweithredu fel cam o wersi nofio i nofio cystadleuol. Wedi'i anelu at fireinio dechneg a chyflwyno sgiliau newydd, mae JPS yn addas ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau WAVE 8 o'n Cynllun Dysgu Nofio.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Sesiynau Strwythuredig
Mae ein hyfforddwyr cymwys yn dilyn Llwybr LTS Nofio Cymru.
Hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol
Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno Llwybrau Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac wedi cael gwiriadau DBS llawn.
Cadw llygad ar ddatblygiad eich plentyn
Mae gan Ganolfan Hamdden Y Flash borth arbennig lle gallwch gadw llygad ar sgiliau nofio eich plentyn ar-lein.
Gwersi drwy gydol y flwyddyn
Mantais ein rhaglen 50 wythnos yw y bydd plant yn dysgu nofio ac yn symud drwy’r camau yn gyflymach a bydd gwersi wythnosol rheolaidd yn gwella cysondeb y dysgu.
Nofio am ddim
Mae nofio am ddim ar draws Powys wedi’i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio.
Gostyngiad o 20%
Gall pawb sydd wedi cofrestru yn ein hysgol nofio (a'u rhieni) fwynhau 20% oddi ar ddiodydd poeth yn ein Caffi.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn.
Ein partneriaeth â Nofio Cymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.
Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfleusterau Cysylltiedig Eraill Yn Ein Canolfan
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
Loceri a Chawodydd
Mae gan Ganolfan Hamdden Y Flash gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â £1 ar gyfer eich locer!
Caffi
Y caffi yw’r lle delfrydol i gwrdd â ffrindiau ac ymlacio ar ôl ymarfer corff neu eistedd a darllen eich hoff lyfr. Rydym yn cynnig dewis eang o ddiodydd a bwyd poeth ac oer i chi fwynhau.
Barod I Ymuno â'n Hysgol Nofio?
Mae ein cydweithwyr gwych yn barod i gamu i mewn a'ch helpu i ddechrau ar eich gwersi nofio. I ddod yn aelod o gymuned Freedom Leisure Powys, holwch heddiw!