Defnyddio Ein Pyllau
Boed eich diddordeb mewn nofio ar hyd y pwll, nofio ymlaciol neu nofio am hwyl a ffitrwydd, mae yna sesiwn nofio i chi!
Nofio Oedolion
Nofio Lôn
Nofio Teuluol
Nofio am Ddim
Nofio 50+
Erobeg Dŵr
Nofio Codwyr Cynnar
Clwb Nofio
Watermania
Nifer yr oedolion i bob plentyn
Ni chaniateir unrhyw blentyn o dan 8 oed o fewn Canolfan Hamdden Fflach oni bai ei fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Gall 1 oedolyn cyfrifol ddod â 2 blentyn o dan 8 oed.
Ar gyfer Watermania a phartïon pwll preifat a gynhelir gyda'r rhaeadrau, mae'r cymarebau canlynol yn berthnasol:
Oherwydd y dŵr sy'n llifo'n gyflym a cheryntau dan y dŵr ledled y pwll, mae cyfyngiadau pellach ar bob sesiwn sy'n cynnwys y rhaeadrau.
Plant o dan 4 oed i fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol - 1 plentyn i bob oedolyn bob amser.
Plant rhwng 4 a 7 oed i fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol - 2 blentyn ar y mwyaf i bob oedolyn bob amser.
Ni chaniateir i oedolyn cyfrifol fynd a 3 neu fwy o blant o dan 8 oed i mewn i'r pwll nofio.
Nid oes rhaid i blant 8 oed + fod yng nghwmni oedolyn.
Diffinnir oedolyn cyfrifol fel 16 oed +
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Prif Bwll
Sleid Ffliw
Reid Cyflym
Ardaloedd Padlo a Thraeth
Pwll Sba
Cyfleusterau Cysylltiedig Eraill Yn Ein Canolfan
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
Loceri a Chawodydd
Mae gan Ganolfan Hamdden y Flash gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â 20c ar gyfer eich locer!
Caffi
Y caffi yw’r lle delfrydol i gwrdd â ffrindiau ac ymlacio ar ôl ymarfer corff neu eistedd a darllen eich hoff lyfr. Rydym yn cynnig dewis eang o ddiodydd a bwyd poeth ac oer i chi fwynhau.