Mae digon o ddewis yn Nhreforys wrth ystyried nofio yn y pwll 25m, o sesiynau arferol i wersi nofio a'r cyfarwyddyd achubwr bywyd.
Nid oes yn rhaid i nofio fod yn ddifrifol, dewch i gael sesiwn nofio hamddenol. beth am roi cynnig ar rywbeth newydd ac ymuno â’n dosbarth aerobeg dŵr bob dydd llun a dydd iau.
Oedolion - Mae gwersi nofio i oedolion yn hwyliog, difyr a strwythuredig i alluogi’r nofiwr unigol i weithio ar ei gyflymder ei hun.
Dechreuwyr- Rydym yn darparu gwersi i ddechreuwyr, i wella hyder a gosod sylfeini nofio.
Gwellhawyr- Rydym hefyd yn cynnig gwersi nofio i’r rheiny sy'n gallu nofio ond sydd eisiau gwella eu techneg nofio, neu ddysgu strociau newydd.
Gwersi preifat- Ar gael yn ystod y dydd, gyda’r nos ar ddyddiau'r wythnos ac ar benwythnosau. Mae tîm o athrawon cymwysedig profiadol ar gael i diwtora unigolion neu grwpiau bach.