Y lle perffaith i fod yn actif ac yn iach wrth gael hwyl
Aelodaeth
Ni yw'r gymuned actif fwyaf yn Abertawe ac mae ein haelodaeth hygyrch i bawb ledled y ddinas yn cynnig ffordd werthfawr iawn o gadw'n iach a chyrraedd eich nodau ar draws Abertawe.
Nofio Lôn
Mae gennym lonydd araf, canolig a chyflym i ddarparu ar gyfer pob gallu.
Gwersi Nofio
Rydym yn cynnig ystod o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein gwersi i gyd yn ymwneud â datblygu nofwyr hyderus a chymwys trwy hwyl a mwynhad. Ein nod yw hyder dŵr, sgil a thechnegau nofio o’r lefel uchaf.
Nofio i'r Teulu
Sesiynau yn y pwll sy'n berffaith ar gyfer treulio amser o ansawdd da gyda'ch teulu.
Nofio Arian
Gall nofio gynnal hyd at 90% o bwysau’r corff mewn dŵr, sy’n golygu y gall y rhai ag anableddau, anafiadau neu salwch megis arthritis gymryd rhan a’ch helpu i aros yn iach, yn egnïol ac yn annibynnol wrth i chi fynd yn hŷn.
Partïon
Mae'n ddiwrnod i'w gofio i'r plant a braidd dim ffwdan i'r oedolion. Mynnwch amser sblasio gyda'n parti cyfarpar chwyddadwy yn y pwll.
Mentrau Nofio
Rydym yn cynnig gostyngiad AFFS ar nofio lôn yn ogystal â Sblasio Am Ddim i rai o dan 16 oed.
Clybiau
Gall clybiau logi lonydd yn ein pwll.
Newyddion gwych, yn dilyn adborth, nid oes angen i chi archebu ymlaen llaw mwyach ar gyfer eich sesiynau nofio lôn neu ein sesiynau nofio cyhoeddus.
Gallwch archebu ein sesiynau nofio ac arian am ddim o flaen llaw (8 diwrnod) ar-lein yma neu drwy ein ffonio ar 01792 797082.
Beth sydd ar gael yn Morriston?
Parcio ar y safle
Parcio am ddim ar y safle
Aelodaeth nofio yn unig
Os byddwch yn bwriadu ein defnyddio fwy nag unwaith yr wythnos yna mae gennym aelodaeth gost effeithiol gwych
Cyfleusterau Newid
Mynediad at doiledau a chyfleusterau newid, gan gynnwys cawodydd.
Pwll Nofio
Mae ein pwll yn 25 metr gyda 3 lôn a hanner.
Nofio i'r Teulu
Gan gynnwys sesiynau Nofio i Blant Bach, Fflotiau Hwyl, Cyfarpar Chwyddadwy a Nofio Cyhoeddus.
Merched yn unig
Mae gennym lonydd merched yn unig ar gael i'w harchebu.
Hygyrchedd
Yn gwbl hygyrch gan gynnwys teclyn codi ar ochr y pwll
Gwersi nofio
Rydym yn cynnig ystod o wersi nofio i oedolion a phlant.
Oeddech chi'n gwybod?
Gall nofio heb ormod o ymdrech losgi dros 200cal mewn hanner awr. Gan fod dŵr 12 gwaith mor ddwys ag aer, mae nofio yn ffordd lawer mwy effeithiol o dynhau'ch cyhyrau nag unrhyw fath arall o ymarfer corff cardiofasgwlaidd y gallwch ei wneud ar y tir.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein canolfan yn cynnig y cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod pobman yn hygyrch, yn lân ac yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Cymhareb Oedolyn i Blentyn
Mae'n bwysig ein bod yn eich cadw'n ddiogel yn ein pyllau.
Mae angen un oedolyn ar blant 3 oed ac iau i oruchwylio un plentyn. Mae angen un oedolyn ar blant 4-7 oed i oruchwylio dau blentyn. Gall plant 8+ oed ddefnyddio'r pwll heb oedolyn i’w goruchwylio ond mae’n rhaid i unrhyw blentyn nad yw'n nofiwr hyderus gael ei oruchwylio beth bynnag y bo ei oedran.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Cyfleusterau newid a Chawodydd
Mae gennym gyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch.
Coffi Costa
Rydym yn falch o weini Coffi Costa yn ogystal ag amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd oer yn ein derbynfa.
Parcio
Parciwch am ddim yn ein canolfan pan fyddwch yn ein defnyddio.
Siop
Rydym yn cadw'r holl hanfodion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwersi nofio gan gynnwys gogls a chymhorthion nofio eraill. Ewch i'n derbynfa i ddarganfod mwy.
Beth mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
sdfknsdflksdhfjl ksdfhlksdh fdsf.
Fred
Have fun.
Alex O
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary B.
Cwestiynau Cyffredin
Newyddion gwych, yn dilyn adborth, nid oes angen i chi archebu ymlaen llaw mwyach ar gyfer eich sesiynau nofio lôn neu ein sesiynau nofio cyhoeddus.
Gallwch archebu ein sesiynau nofio ac arian am ddim o flaen llaw (8 diwrnod) ar-lein yma neu drwy ein ffonio ar 01792 797082.
Mae ein pwll ar agor 7 diwrnod yr wythnos. I ddod o hyd i'r sesiwn rydych chi'n edrych amdani, edrychwch ar ein hamserlen, http://www.freedom-leisure.co.uk/centres/morriston-leisure-centre/timetables/
Rydym yn argymell eich bod yn dod â thywel ac unrhyw gymhorthion nofio y gallai fod eu hangen arnoch.
Oes mae gennym loceri ar ochr y pwll
Na, Nid oes angen dod yn barod ar gyfer y traeth mwyach, fodd bynnag mae'n ddewis personol.
Mae angen i bawb wisgo dillad nofio. Os oes angen i chi guddio, yna caniateir brechwisgoedd.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!