Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal adolygiad o’r canolfannau hamdden ym Mhowys, fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau’r Cyngor. Mae Cyngor Sir Powys yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, defnydd/cyfranogiad, costau rhedeg y ddarpariaeth, allyriadau carbon a chyflwr yr adeiladau, yn ogystal â gweithgareddau a chyfleoedd hamdden eraill yn y sir a’i chyffiniau.

 Er mwyn helpu Cyngor Sir Powys i ddylunio cynnig hamdden cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, hoffent wybod pa weithgareddau ry’ch chi’n cymryd rhan ynddyn nhw nawr (neu ddim) ar gyfer eich iechyd a lles. Hoffent wybod hefyd ymhle ry’ch chi’n gwneud y gweithgareddau hyn ac ymhle y byddech yn dewis i’w gwneud nhw yn y dyfodol.

 Gallwch roi eich adborth ar-lein drwy eu harolwg yma.