Bydd Panto yn dychwelyd ym mis Rhagfyr 2024 i Theatr Penyrheol ac eleni bydd It's An Act yn dod â stori boblogaidd Aladdin yn fyw gyda rhifyn teuluol ac oedolyn arbennig!

Aladdin ar gyfer y teulu

Aladdin ar gyfer y teulu

Ymunwch â’n harwr Aladdin y Nadolig hwn ar daith hynod llawn hud a lledrith a dirgelwch wrth iddo geisio gwneud ei ffortiwn a dod o hyd i gariad pur.

Mae’r cynhyrchiad ysblennydd hwn i’r teulu yn llawn cynhwysion y byddech chi’n eu disgwyl mewn pantomeim traddodiadol gan Its An Act Productions. Bydd yn cynnwys gwisgoedd disglair, canu a dawnsio cyffrous a llond lle o chwerthin gyda digon o gyfle i ymuno yn yr hwyl a bŵian y gŵr drwg neu gymeradwyo Aladdin ar ei antur nesaf.

Dewch i ymuno yn yr hwyl fis Rhagfyr hwn a gwneud yn siŵr fod trip Nadoligaidd i’r theatr ar frig eich rhestr siopa. Dyma sioe arbennig i’r teulu!

Aladdin - oedolion yn unig

Aladdin - oedolion yn unig

Dyma wahoddiad i chi i gyd i ymuno ag Aladdin a’i ffrindiau wrth iddynt geisio rhwbio.... ei lamp. Nid yw’r cynhyrchiad hwn i’r gwangalon, mae’n llawn cynhwysion budr y byddech yn eu disgwyl bellach mewn pantomeim gan It's an Act. Mae cynhyrchiad ysblennydd eleni’n llawn dop o holl gynhwysion y panto traddodiadol, gyda thro ychwanegol! Dewch i wrando ar y llinellau ffraeth, y ensyniadau niferus â sgeintiad o hiwmor tywyll wrth gwrs. Boed yn noson allan gyda ffrindiau, yn barti swyddfa neu’n ddêt gyda’ch partner, dyma noson Nadoligaidd na ddylech ei cholli. Dewch a mwynhewch!