Mae Hanner Tymor Chwefror (12fed - 18fed Chwefror) yn prysur agosáu ac rydym wedi bod yn brysur yn llunio rhaglen o weithgareddau hynod hwyliog i'ch plant eu mwynhau yn ystod yr hanner tymor ar draws ein canolfannau yn Abertawe.

Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt

Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt

Ym mis Chwefror eleni rydym yn dod â’n gwersylloedd aml-chwaraeon yn ôl bob dydd trwy gydol yr hanner tymor, sy’n berffaith i blant 5-7 oed wneud ffrindiau, cael hwyl a chadw’n actif.

 

LC Abertawe

LC Abertawe

Nid y Parc Dŵr yn yr LC yn unig y gallwch chi ei fwynhau'r hanner tymor hwn...oes gennych chi blentyn 5-12 oed sy'n edrych i wneud rhywbeth yn ystod hanner tymor mis Chwefror? Mae ein gwersylloedd aml-chwaraeon yn berffaith i’w difyrru gyda chwaraeon, man chwarae, a nofio a dringo hefyd (sylwer bod nofio a dringo ar gyfer oedran 8+.) Mae tocynnau nawr yn fyw ar gyfer ein holl weithgareddau hanner tymor ym mis Chwefror gan gynnwys y Parc Dŵr, Man Chwarae a Wal Ddringo

 

Canolfan Hamdden Treforys

Canolfan Hamdden Treforys

Mae ein gwersylloedd dydd aml-chwaraeon hefyd yn dychwelyd ar gyfer plant 5-11 oed lle gallant wneud ffrindiau, aros yn actif a chael hwyl. Bydd llawer o hwyl i’w gael yn y pwll yr hanner tymor yma hefyd.

 

Canolfan Hamdden Penlan

Canolfan Hamdden Penlan

Mae ein gwersi nofio dwys yn dychwelyd yn ystod hanner tymor mis Chwefror naill ai i roi hwb i wersi presennol neu i gychwyn y daith dysgu nofio. Bydd llawer o hwyl i'r teulu yn y pwll hefyd.

Byddwn hefyd yn cynnig:

Dydd Llun 12fed a dydd Gwener 16eg  Gwersyll pêl-droed yn dychwelyd, i blant 8-14 oed o 10:00 - 15:00

Dydd Mawrth 13eg Ni Ferched, perffaith ar gyfer 8-14 oed gydag amrywiaeth o weithgareddau fel aml-chwaraeon, pêl osgoi, bwrdd mynydd a nofio

Dydd Mercher 14eg Bownsio a chwarae, yn cynnig llawer o hwyl i blant iau ac mae am 11:30 a 13:30

Dydd Iau 15fed Gemau Stryd, bydd plant 8-14 oed yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys nofio, pêl osgoi, aml-chwaraeon a llawer mwy Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer yr holl weithgareddau hyn.

Canolfan Hamdden Penyrheol

Canolfan Hamdden Penyrheol

Yr Hanner tymor hwn, bydd gwersylloedd chwaraeon yn dychwelyd i ddiddanu eich plant 5-11 oed drwy gydol y gwyliau. Yn ogystal â gwersylloedd chwaraeon rydym yn cynnig gwersi nofio dwys i naill ai ychwanegu at wersi eich plentyn neu eu rhoi ar ben ffordd ar eu taith dysgu nofio.

Dewch draw i gael ychydig o hwyl!