Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi’i ddylunio i helpu oedolion anweithgar sydd mewn perygl o ddioddef iechyd gwael neu sydd â chyflwr ganddynt eisoes i ddod yn fwy egnïol.
Angen cymorth ac anogaeth i ymarfer?
Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi’i ddylunio i helpu oedolion anweithgar sydd mewn perygl o ddioddef iechyd gwael neu sydd â chyflwr ganddynt eisoes i ddod yn fwy egnïol.
Mae’r cynllun yn rhoi’r cyfle i chi wella lefel eich gweithgarwch egnïol gyda phobl debyg i chi.
Os ydych yn anweithgar ac yn dioddef o leiaf un o’r cyflyrau canlynol: (Mae meini prawf meddygon yn berthnasol)
Powys NERS Cam IV – Adferiad Cardiaidd
Os oes gennych glefyd coronaidd y galon, mae’n bosib eich bod yn gymwys i ddilyn ein rhaglen Adferiad Cardiaidd Cam IV NERS Cam IV. Rhaglen ymarfer 16 wythnos lawn hwyl yw hon i bobl fel chi sy’n dymuno byw bywyd iachach.
Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn Adferiaid Cardiaidd Cam III yn ddiweddar, neu os yw’ch Meddyg Teulu’n dweud eich bod yn cyflawni’r meini prawf, gallech ddod i ymuno â phobl debyg i chi. Ein hyfforddwyr tra chymwys yn cyflenwi’r holl sesiynau.
NERS – Gofal am y Cefn (Sefydlogrwydd Craidd)
Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cymorth ac anogaeth i ymarfer ar gyfer y rheiny sydd wedi’u nodi ar ôl asesiad gan eu gweithiwr iechyd proffesiynol fel rhai â phoen cronig yn rhan isaf y cefn.
Cynhelir y sesiynau ddwywaith yr wythnos, ac maent yn darparu rhaglen ymarfer ar sail tystiolaeth gyda’r nod o wella symudedd gydag ymarfer ysgafn i ddatblygu osgo da, cryfhau’r cyhyrau sy’n cynnal y cefn, a chaniatáu i gymalau anghysurus sydd wedi cyffio symud unwaith eto.
NERS – Cydbwysedd a Chryfder (Atal Cwympo)
Rydym yn cynnig rhaglen ymarfer ar sail tystiolaeth gyda nod o leihau’r risg o gwympo, dan arweiniad Hyfforddwyr sefydlogrwydd osgo cymwys. Nod y sesiynau hyn yw helpu i gynnal eich annibyniaeth, parhau i sefyll ar eich traed a symud, gwneud ffrindiau a chael hwyl .... dewch i ymuno â ni.
“The potential benefits of physical activity to health are huge. If a medication existed which had a similar effect, it would be regarded as a ‘wonder drug’ or ‘miracle cure’ ” Professor Sir Liam Donaldson, 2010.