Gweithgareddau dan do

Mae’r neuadd chwaraeon amlbwrpas ar y llawr gwaelod ac mae’n bosibl ei defnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau gan gynnwys badminton, pêl-fasged, pêl-rwyd, erobeg, crefft ymladd, tennis byr, pêl-droed 5 bob ochr, pêl-foli a llawer mwy!

 

Y neuadd chwaraeon hefyd yw’r lle perffaith i gynnal digwyddiadau megis partïon pen-blwydd castell gwynt, ffeiriau crefft, sioeau cŵn, graddio karate, ffeiriau priodas, dawnsio neuadd a hefyd wedi cynnal twrnameintiau badminton rhyngwladol.

.