Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i’r Tîm anhygoel yn Abertawe
Mae Freedom Leisure yn un o’r ymddiriedolaethau hamdden elusennol mwyaf yn y DU, yn rhedeg dros 100 o gyfleusterau hamdden gan gynnwys theatrau a safleoedd treftadaeth.
Rydyn ni’n cyflogi dros 5,000 o staff llawn amser a rhan amser, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio’n agos i’w cartrefi, yn eu cymuned leol.
Pam Dod i Weithio yn Ein Canolfan
Cyrraedd eich uchelgeisiau a chael swydd sy’n gweddu’ch ffordd o fyw
Mae amrywiaeth eang o rolau yn ein canolfannau a’n safleoedd ac mae gan nifer o bobl fwy nag un swydd, rhai mewn lleoliadau gwahanol, sy’n eu galluogi i fwynhau amrywiaeth yn eu gwaith. Mae ein staff yn dilyn patrwm oriau amrywiol; o 1 awr hyd at llawn amser, naill ai’n barhaol neu’n achlysurol. Mae Freedom Leisure yn ddigon mawr i allu cynnig buddion i’n staff, hyblygrwydd yn eu gwaith ac amrywiaeth eang o gyfleoedd, hyfforddiant a sicrwydd. Mae’r dewisiadau’n niferus ac yn amrywiol; rhoddir cyfle i ddysgu sut i gynnal gwersi nofio, neu gallant ddysgu am ffitrwydd, dosbarthiadau stiwdio, marchnata, arlwyo, arweinyddiaeth, a llawer mwy. Rydyn ni’n rhoi’r adnoddau a’r profiad hanfodol i ddatblygu’ch gyrfa ymhellach.
Ymdeimlad eich bod yn chwarae rôl ganolog yn eich cymuned
Mae cymuned yn bwysig i ni ac rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau hamdden, chwaraeon a chymunedol fforddiadwy a hygyrch i bawb yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithio i ddarparu’r hyn sydd ei angen, pan fo’i angen a hynny ar gost sy’n realistig i gynifer o bobl â phosibl. Mae hamdden gymunedol yn golygu llawer mwy na darpariaeth ffitrwydd a champfa. Mae ein staff yn elfen hanfodol o’n cynnyrch a’n gwasanaethau - mae pawb yn bwysig!
Wneud ffrindiau am oes
Mae gweithio i Freedom Leisure yn golygu eich bod yn rhan o dîm ehangach ac mae’n golygu hefyd bod pawb yn chwarae rhan hanfodol yn ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Mae ein staff yn falch o weithio i ni, maen nhw’n hoffi’u cydweithwyr ac yn mwynhau’u rolau; rydyn ni’n gwybod hyn am ein bod ni’n gofyn iddyn nhw.
Ymunwch â thîm gwych
Rydyn ni’n gwrando ar ein staff ac roedd 92% o’n staff newydd wedi dweud y byddan nhw’n argymell i eraill ddod i weithio gyda ni. Mae gan bob aelod o’n tîm rôl sy’n cyfrannu at y gwaith o ddarparu profiadau gwych i’n holl gwsmeriaid, boed hynny’n swydd rheng flaen yn un o’n safleoedd, yn swydd gymorth mewn safle neu’n swydd ganolog.
Y Mathau o Rolau Rydym yn Eu Cynnig?
Rheolaeth
Hyfforddwyr Ffitrwydd
Gwerthu a Marchnata
Achubwyr Bywyd ac Athrawon Nofio
Gwasanaethau Cwsmer
Arlwyo a Lletygarwch
Gweithrediadau'r Ganolfan
Rheoli Cyfleusterau
Gweinyddiaeth
Ymunwch â ni heddiw
Mae sawl rôl wahanol ar gael gennym ar hyd dros 100 o ganolfannau ledled y DU.
Cymorth gydag Ymgeisio
Rydym wedi llunio canllaw byr ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn y cais a’ch cyfweliad er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y camau cywir.
Apply now to join our team
Mae sawl rôl wahanol ar gael gennym yn ein canolfan, i weddu amrywiaeth o sgiliau. Ymunwch â'n tîm gwych a chyfeillgar, heddiw!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi wneud cais ar gyfer ein swyddi ar-lein drwy ddilyn y ddolen. Mae’n broses syml iawn, y cyfan sydd ei angen arnon ni yw copi o’ch CV a Llythyr Eglurhaol. Bydd tîm y safle lleol yn cysylltu â chi i roi gwybod a ydych wedi cyrraedd y cam nesaf.
Gallwch, wrth gwrs. Nid oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau a wnewch.
Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael gan gynnwys rolau gweinyddol ac yn y dderbynfa, hyfforddwyr ffitrwydd, athrawon nofio, rheolwyr a goruchwylwyr, cynorthwywyr crèche, rolau yn y celfyddydau gweledol, achubwyr bywydau, rolau yn y cynllun cymunedau iach, gwasanaethau cwsmeriaid, cyllid, Adnoddau Dynol a llawer mwy.
Mae’r patrwm oriau yn dibynnu ar ofynion y rôl. Mae gennym rolau llawn amser a nifer o rolau rhan amser hefyd. Dylai fod rhywbeth sy’n addas i bawb. Dylech chi drafod yr oriau y gallwch eu gweithio gyda’r rheolwr recriwtio.
Bydd y rheolwr recriwtio yn cadarnhau eich dyddiad dechrau a manylion y rôl ac yn casglu’r dogfennau angenrheidiol gennych chi. Yna, bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i’r tîm Adnoddau Dynol, a fydd yn anfon manylion atoch chi am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i osod eich cyflogres. Pan fydd gennym yr holl ddogfennau perthnasol, byddwn yn anfon contract cyflogaeth neu gytundeb gweithiwr achlysurol atoch chi.
Byddwn yn cadarnhau dyddiad dechrau a bydd tîm y safle yn rhoi unrhyw wisg sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich swydd i chi.
Bydd hyn yn dibynnu ar y rôl ond rydyn ni’n ceisio eich hysbysu am ddatblygiad eich cais. Os nad ydych yn clywed gennym pan oeddech yn ei ddisgwyl, gallwch anfon neges atom drwy’r safle gwaith.
Mae’n dibynnu ar y rôl a’r safle. Bydd angen cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer cryn dipyn o’n swyddi ac rydyn ni bob amser yn drylwyr o ran sicrhau bod y gwiriadau’n cael eu gwneud. Byddwn ni hefyd yn gwirio’ch dogfennau Hawl i Weithio er mwyn sicrhau bod gennych yr Hawl i Weithio.
Mae gennym lawer o gyfleoedd ac enghreifftiau o bobl sydd wedi datblygu yn y sefydliad. Os ydych chi’n uchelgeisiol, gallwch ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Trafodwch eich uchelgeisiau gyda’ch rheolwr a chwiliwch am gyfleoedd i wella’ch profiad, eich sgiliau, eich cyfrifoldebau a’ch gwybodaeth. Byddwch chi a’ch rheolwr yn trafod datblygiad a chyfleoedd yn ystod eich arfarniadau.
Mae gennym ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu a datblygu. Bydd rhai ohonynt yn orfodol, ac yn ymwneud â’ch rôl, bydd rhai yn hyfforddiant corfforaethol sy’n berthnasol i bawb, fel Iechyd a Diogelwch. Mae amrywiaeth enfawr o hyfforddiant ar-lein, ar y platfform datblygiad personol, My Smart Path, sy’n cynnwys rhaglenni dysgu a datblygu byr. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein rhaglen brentisiaethau i ennill cymwysterau gwahanol.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!