Dyma newyddion grêt!
Diolch am fod yn aelod yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi a gobeithio’ch bod chi’n gwneud y mwyaf o’ch aelodaeth.
Mae profiad y cwsmer a’r modd yr ydych yn rhyngweithio â ni yn bwysig iawn ac rydym ni’n falch o gyhoeddi bod eich Ap Freedom Leisure wedi gwella ac y gallwch archebu dosbarthiadau yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi!
I lawrlwytho’r ap cliciwch yma neu chwilio am ‘Freedom Leisure’ yn eich siop Ap o ddewis, yna chwiliwch am Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi ac archebwch bant!
Yn ogystal â rheoli eich archebion a gweld ein hamserlenni byddwch chi hefyd yn gallu cadw’n gyfredol â’r newyddion diweddaraf yn eich canolfan. Os ydych chi’n caniatáu hysbysiadau, chi fydd y cyntaf i glywed!
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau defnyddio’r Ap newydd a gwell!
Ap – Amodau wrth ei ddefnyddio
- Nid yw pob categori aelodaeth yn galluogi defnyddwyr i archebu ar-lein. Siaradwch â chydweithwyr yn eich canolfan am gyngor.
- Efallai bydd yn ofynnol i chi greu cyfrif un ai ar yr Ap neu yn eich canolfan leol i gael mynediad at archebu ar-lein. Siaradwch â chydweithwyr yn eich canolfan am gyngor.
- Os yw eich canolfan yn galluogi defnyddwyr i archebu a thalu am ddosbarthiadau a gweithgareddau efallai y bydd yn angenrheidiol i gysylltu cerdyn talu at eich cyfrif. Siaradwch â chydweithwyr yn eich canolfan am gyngor.
Lawrlwythwch ein Ap
Mae ein Ap yn hwyluso archebu dosbarthiadau a gweithgareddau yn gyflymach ac yn haws nac erioed. Ydych chi eisoes yn aelod neu wedi cofrestru ar gyfer archebu ar-lein? Lawrlwythwch ein Ap nawr! Heb gofrestru eto? Cysylltwch â’ch canolfan leol i gofrestru.