Mae gallu nofio yn cynyddu hyder, a gallai ddatblygu i fod yn hobi pleserus ac iach i gynyddu eich ffitrwydd. P'un a yw ar gyfer gwella eich strôc neu i ddechrau o'r dechrau, mae Ysgol Nofio Canolfan Hamdden Aberhonddu yn berffaith i bawb.
Yma yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu dilynwn darparu fframwaith dyfrol Nofio Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd eich plentyn yn dilyn maes llafur a system wobrau a gydnabyddir yn genedlaethol a gynhyrchwyd gan gorff llywodraethol nofio.
Ein polisi yw sicrhau bod ein holl wersi yn bleserus, yn ddiddorol ac yn bennaf oll rydym yn anelu at y safonau uchaf o ran hyder yn y dŵr, sgiliau dŵr a thechnegau nofio.
Mae ein hathrawon nofio yn dilyn asesu parhaus sy'n golygu bod nofwyr yn symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain ac yn symud dosbarth unwaith y bydd y meini prawf asesu wedi cael eu cyflawni.
sblash 1 a 2
Ar gyfer oedolion sy'n cyd-fynd a abai neu blentyn bach, yn fwyaf cyffredin rhwch 4 mis a 18 mis ond yn briodol i blant hyn os hwn yw eu profiad cyntaf yn y dwr.
sblash 3, 4 & 5
I blentyn bach o 2 blynedd, ynghyd yn y dwr gan oedolyn.
sblash 6
Ar gyfer plentyn 3 oed neu'n hyn yn y dwr ar eu pen eu hunain.
ton 1 (het goch)
Datblygu hyder a diogelwch yn y dwr, ac wrth fynd i mewn ac allan o'r pwll. Dysgwch arnofio sylfaenol, sgwlio a thechnegau anadly. Dechrau dysgu nofio ar eich blaen, nofio ar y cefn a broga neu pilipala, gyda chymorth os oes angen.
ton 2 (het oren)
Gallu i neidio i mewn i'r pwll. Gwella sgwlio, fel y bo'r angen a thechnegau anadlu. Gleidio efo'ch corff yn syth. Nofio pellteroedd byr ar y bol, ar y cefn a broga neu pilipala, heb gymhorthion.
ton 3 (het melyn)
Casglwch gwrthrych o lawr y pwll. Gwella sgwlio ac arnofio. Dysgwch sut i droedio dwr. Dysgwch y cod SAFE. Nofio pellteroedd byr o bob un o'r pedwar strôc: ar y bol, ar y cefn, broga a pilipala heb gymhorthion.
ton 4 (het gwyrdd)
Dysgwch sut i wneud cychwyn dolffin o dan y dwr. Dysgwch lleoli HELP. Gwella technegau dwr arnofiol a troedio dwr. Gwella techneg o bob un o'r pedwar strôc.
ton 5 (het glas golau)
Dysgwch neidiau o siapau gwahanol. Dysgwch syt i wneud summersault ymlaen a hand stand yn y drw. Gwella sgwlio a thechnegau goroesi personol. Nofio pellteroedd hirach yn y pedair strôc, gan gynnwys 25m o'ch hoff strôc.
ton 6 (het glas tywyll)
Dysgwch sut i gynhesu yn briodol ar gyfer ymarfer corff a pham. Dysgwch sut i wneud summersault ôl, deifio wyneb pen cyntaf a deifio o eistedd. Gwella technegau goroesi personol gan gynnwys nofio gyda dillad. Nofio pellteroedd hirach yn y pedair strôc, gan ganolbwyntio ar dechneg.
ton 7 (het porffor)
Dysgwch sut i ddeifio. Gwella fel y bo'r angen, sgwlio, troedio dwr a sgiliau chylchdroi. Nofio pellteroedd hirach yn y pedair strôc. Nofiocymysg unigol. Nofio fel rhan o dîm mewn ras gyfnewid.
I holi am wersi nofio, llenwch y ffurflen syml hon a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad â chi yn fuan.
Cynhelir ein rhaglen ysgol nofio am 50 wythnos y flwyddyn, yn ystod pob gwyliau ysgol gydag egwyl o 2 wythnos ar gyfer y Nadolig.
hetiau nofio
Mae hetiau nofio yn cael eu gwisgo gan bob plentyn yn y cynllun ac maent mewn lliwiau gwahanol i nodi lefel y nofio. Darperir hetiau wrth ymuno â’r cynllun ac wrth symud ymlaen drwy'r lefelau. Mae hetiau newydd ar gael i'w prynu o’r dderbynfa.
.
nofio am ddim
Cofiwch fod cerdyn aelodaeth freedomleisure eich plentyn yn rhoi'r hawl iddo nofio AM DDIM yn ystod yr holl sesiynau nofio cyhoeddus. Mae hyn yn galluogi’r plant i ymarfer yr hyn maent yn ei ddysgu bob wythnos yn ystod y gwersi. Mae rhai lefelau yn cymryd amser i symud ymlaen i'r lefel nesaf - gallai nofio rhwng gwersi helpu i gyflymu'r broses.
porth hafan - cynnydd y cwrs
Gyda chyflwyno meddalwedd gweinyddiaeth Course Pro Swim School mae'r holl wybodaeth asesu yn cael ei chadw yng nghyfrif yr aelodau. Gallai Rhieni / Gwarcheidwaid weld adroddiad cynnydd eu plentyn trwy Borth Hafan ar-lein.
Bydd angen rhif ID yr aelod (ar gael o'r dderbynfa) i chi gofrestru i gael mynediad i Borth Hafan yr Ysgol Nofio. Unwaith y bydd eich cyfrif yn cael ei actifadu gellir gweld cynnydd y plant ar-lein.
Ewch i'r wefan ganlynol i gofrestru https://brecon.courseprogress.co.uk/
canslo debyd uniongyrchol
Gellir canslo aelodaeth debyd uniongyrchol Seren Fôr drwy roi 31 diwrnod o rybudd ysgrifenedig cyn eich taliad debyd uniongyrchol nesaf. Cliciwch yma i ganslo.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cofiwch gysylltu â ni.
Ysgol Nofio Aberhonddu