Mae Canolfan Hamdden Aberhonddu'n cynnig rhai o'r cyfleusterau awyr agored gorau ym Mhowys. Y prif ardaloedd yw ein Trac athleteg 400m 8 lôn Gradd A a'n Maes Astro maint llawn.
Os ydych yn athletwr Cymraeg mae'n debyg eich bod wedi rasio yn Aberhonddu ar ryw adeg. Mae ein trac 400 metr 8 lôn Gradd A yn darparu arwyneb o'r radd flaenaf i berfformwyr elitaidd.
I gyd-fynd â'r trac, mae gennym yr holl gyfleusterau ar gyfer disgyblaethau'r maes. P'un a ydych yn daflwr neu'n neidiwr, Aberhonddu yw'r lleoliad hyfforddi delfrydol â chewyll taflu morthwyl, cylchoedd taflu disgen a phyllau naid uchel a naid hir.
Clwb Athletau Aberhonddu
Rydym hefyd yn falch i fod yn gartref CA Aberhonddu sy'n llwyddiannus iawn.
Mae'r clwb yn darparu ar gyfer pob oed a gallu, â grwpiau ar gyfer Trac a Maes, Traws Gwlad a digwyddiadau Rhedeg ar y Ffordd.
Cynhelir hyfforddiant ar y trac yn y tymor awyr agored (mis Mawrth i fis Medi), ac yn ein cyfleusterau chwaraeon yn y ganolfan a'r ysgol uwchradd yn y tymor dan do/Traws Gwlad (mis Medi i fis Mawrth). Mae'n dechrau am 6pm i rai dan 13 a hŷn, a 6:30pm i ran dan 11.
Y ffioedd hyfforddi yw £2 y sesiwn, mae'r tair sesiwn gyntaf am ddim. Mae ffioedd aelodaeth yn berthnasol ar gyfer athletwyr sy'n dymuno hyfforddi a chystadlu i'r clwb.
Mae'r trac ar gael at ddefnydd y cyhoedd drwy gydol y flwyddyn y tu allan i sesiynau hyfforddi'r clwb. Gofynnir i gwsmeriaid ymweld â'r brif dderbynfa'n gyntaf i dalu am eu sesiwn..
Eto mae ein Maes Tywarch Astro yn un o'r gorau yn y rhanbarth. Mae'n un maint llawn felly gellir ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed neu hoci. Hefyd gellir rhannu'r maes i roi meysydd pêl-droed 5 neu 7 bob ochr.
Mae gan y maes y llifoleuadau gofynnol i'w ddefnyddio gydol y flwyddyn yn ystod oriau agor y ganolfan.
Yn ogystal â'n Maes Tywarch Astro mae gennym ardaloedd chwaraeon awyr agored eraill hefyd gan gynnwys ein cyrtiau tarmac caled.
Mae'r rhain yn ddelfrydol ar gyfer tennis neu bêl-rwyd.