Am y cyfnod hwn, ni fydd cawodydd ar gael yn ardaloedd newid y pwll nofio. Bydd ein hystafelloedd newid ochr sych ar agor ac ar gael i'w defnyddio gan bob nofiwr, dewch ag
esgidiau addas i gael mynediad atynt er mwyn cerdded o ochr y pwll i'r ystafelloedd newid ochr sych. Peidiwch â mynd yn droednoeth.

Ni fydd y toiledau dynion yn yr ystafelloedd newid ar gael. Fodd bynnag, mae toiled hygyrch ar gael i'w ddefnyddio ger yr ystafelloedd newid dynion. Bydd y toiledau yn
ystafelloedd newid y menywod yn parhau ar agor. Os bydd unrhyw ddiweddariadau i hyn, byddwn yn cyfathrebu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac yn y ganolfan.

Bydd yr holl gyfleusterau eraill yn aros ar agor fel arfer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, siaradwch ag un o'r tîm a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu.

Gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ôl i’n hystafelloedd newid ar eu newydd wedd yn fuan iawn.