Noder os gwelwch yn dda y bydd ychydig o darfu tra byddwn yn adnewyddu ardaloedd cawodydd y Pŵll Nofio yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu o 23 Chwefror tan ddiwedd Mawrth.

Am y cyfnod hwn, ni fydd cawodydd ar gael yn ardaloedd newid y pwll nofio. Bydd ein hystafelloedd newid ochr sych ar agor ac ar gael i'w defnyddio gan bob nofiwr, dewch ag esgidiau addas i gael mynediad atynt er mwyn cerdded o ochr y pwll i'r ystafelloedd newid ochr sych. Peidiwch â mynd yn droednoeth.

Ni fydd y toiledau dynion yn yr ystafelloedd newid ar gael. Fodd bynnag, mae toiled hygyrch ar gael i'w ddefnyddio ger yr ystafelloedd newid dynion. Bydd y toiledau yn yr ystafelloedd newid menywod yn parhau i fod ar agor.

Os bydd unrhyw ddiweddariadau i hyn, byddwn yn cyfathrebu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac yn y ganolfan.

Bydd yr holl gyfleusterau eraill yn aros ar agor fel arfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, siaradwch ag un o'r tîm a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu. 

Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth ac yn edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl i’n hystafelloedd newid newydd eu hadnewyddu yn fuan iawn.