Noder os gwelwch yn dda y bydd ychydig o darfu tra byddwn yn adnewyddu ardaloedd cawodydd y Pŵll Nofio yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu o 23 Chwefror tan ddiwedd Mawrth.

Am y cyfnod hwn, ni fydd cawodydd ar gael yn ardaloedd newid y pwll nofio. Bydd ein hystafelloedd newid ochr sych ar agor ac ar gael i'w defnyddio gan bob nofiwr, dewch ag esgidiau addas i gael mynediad atynt er mwyn cerdded o ochr y pwll i'r ystafelloedd newid ochr sych. Peidiwch â mynd yn droednoeth.

Ni fydd y toiledau dynion yn yr ystafelloedd newid ar gael. Fodd bynnag, mae toiled hygyrch ar gael i'w ddefnyddio ger yr ystafelloedd newid dynion. Bydd y toiledau yn yr ystafelloedd newid menywod yn parhau i fod ar agor.

Os bydd unrhyw ddiweddariadau i hyn, byddwn yn cyfathrebu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac yn y ganolfan.

Bydd yr holl gyfleusterau eraill yn aros ar agor fel arfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, siaradwch ag un o'r tîm a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu. 

Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth ac yn edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl i’n hystafelloedd newid newydd eu hadnewyddu yn fuan iawn.

Cau pwll nofio Canolfan Hamdden Aberhonddu Dros Dro 23.3.26-26.3.26

Prif Bwll Nofio

Ar gau: Dydd Llun 23 Mawrth o 08:30 a thrwy gydol dydd Mawrth 24 Mawrth

Ailagor: Dydd Mercher 25 Mawrth am 06:30

Pwll Nofio Bach

Ar gau: Trwy dydd Mercher 25 Mawrth

Ailagor: Dydd Iau 26 Mawrth am 16:00

Caiff y pyllau eu cau dros dro fel hyn er mwyn caniatáu i waith effeithlonrwydd ynni hanfodol gael ei wneud.

Gwersi nofio:

Cysylltir yn uniongyrchol â phob sesiwn a effeithir.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd, os oes gennych unrhyw gwestiynau gofynnwch i un o'r tîm ar y safle neu ffoniwch ni ar 01874 623677