Sesiwn gyntaf AM DDIM!
Mae hoci’n ffordd dda i blant losgi ychydig o egni. Mae’n cryfhau’r cyhyrau ac yn gwella cydbwysedd a balans. Mae hefyd yn gwella’r gallu i weithio o fewn tîm ac mae’r elfen o gystadleuaeth yn creu cadernid. Nod Clwb Hoci y Waun yw sicrhau fod pawb o bob rhan o’r gymuned yn gallu chwarae a mwynhau hoci. Gydag awyrgylch croesawgar, cyfeillgar a hwyliog, mae’r sesiynau’n cael eu teilwra i bawb o bob oed ac mae’r sesiwn gyntaf AM DDIM! ‘Sdim esgus dros beidio galw heibio a rhoi cynnig arni! Bydd y ffyn hoci ar gael ond dewch â’ch crimogau (shin pads) a’ch gorchuddion dannedd eich hun.
I archebu lle, galwch 0753 4495703
Dydd Mercher 14:00-15:00 (Hoci Cerdded)
Dydd Gwener 19:30-20:30 (Oedolion)
Dydd Sul 9:00-10:00 (Plant)
Dydd Sul 10:00-11:00 (Plant)