Pwll Nofio
Mae nofio’n ffordd berffaith o dreulio amser gyda’r teulu, a chael ymarfer corff yr un pryd. Mae’n ffordd hwylus o ddysgu sgil sy’n achub bywyd a chreu atgofion gwych a fydd yn para oes!
Mae ein pwll 25 metr yn berffaith i ymlacio a dadflino ar ôl eich sesiwn ymarfer corff. Neu, gallwch ei ddefnyddio fel rhan o’ch cynllun ffitrwydd ac mae’n berffaith i deuluoedd hefyd.
Gwersi Nofio
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein holl wersi yn ceisio datblygu nofwyr hyderus a chymwys drwy hwyl a mwynhad. Rydym yn anelu at y lefel uchaf o hyder yn y dŵr, ac o ran sgil a thechnegau nofio.
Nifer yr oedolion i bob plentyn
Mae’n bwysig ein bod yn eich cadw’n ddiogel yn ein pyllau.
Rhaid i blant sy’n iau nag 8 oed fod yng nghwmni oedolyn gyda 2 blentyn am bob 1 oedolyn. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â 2 blentyn iau nag 8 oed i nofio yn ein canolfan.
Gall plant sy’n 8 oed a hŷn ddod i’r dŵr heb unrhyw oruchwyliaeth oedolyn. Fodd bynnag rydym ni’n argymell os na all rywun nofio ei fod yn cael ei oruchwylio gan oedolyn ar bob adeg.
Prisiau Gweithgareddau
Oedolyn £5.20
Plentyn £3.65
Myfyrwyr £3.65
Hen £3.65
Teulu 2+2 £13.40
Teulu (plentyn ychwanegol) £2.05
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Rwyf yn fy 70au. Rwyf yn nofio yng Nghanolfan Hamdden Y Waun. Mae’r buddion yn wych, ac rwyf yn teimlo wedi fy nghefnogi’n llwyr gan y staff….
Anonymous
…ac wedi ennill hyder, fel y gwnes i hyd yn oed gymryd rhan yn y ras tough mudder! Rwyf yn gweld yr holl hyfforddwyr yn broffesiynol iawn..
Anonymous
Rwyf wedi bod yn aelod yn Y Waun am dros 20+ o flynyddoedd erbyn hyn. Ymunais i gael ffordd iachus o fyw ac ar hyd y ffordd, rwyf wedi gwneud….
Un o'n cwsmeriaid hapus
Ymunais yn ddiweddar â Chanolfan Hamdden Y Waun i wella fy ffitrwydd ac i helpu gyda cholli pwysau. Mae Sarah wedi sefydlu rhaglen i mi ac rwyf….
Annette Turner
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 7.00-22.00 dydd Llun a dydd Mercher, 6.30-22.00 dydd Mawrth a dydd Iau, 7.00-21.00 dydd Gwener, 8.45-17.00 dydd Sadwrn a 8:30-16:30 dydd Sul.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ydym, mae gennym dros 20 o ddosbarthiadau’r wythnos gan gynnwys Les Mills. O BODYPUMP™ a Metafit™ i Aquafit™ a Ioga – mae rhywbeth i bawb.
Does dim angen cadw lle ar gyfer y dosbarthiadau ymarfer grŵp heblaw’r dosbarth troelli. I gadw lle ar gyfer y dosbarth hwn, a’r cae 3G a’r neuadd chwaraeon, galwch 01691 778666.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch. Mae yna safle bws ychydig cyn Lôn y Capel sydd ond tafliad carreg i’r ganolfan.
Oes, mae gennym ni beiriant coffi a gallwch gymryd eich paned i’ch canlyn neu ei fwynhau yn ein hardal eistedd. Mae yna beiriannau gwerthu yma ac mae diodydd oer ar gael.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!