Mae'r rhaglenni sy'n cael eu rhedeg gennym yn cynnwys: ymarfer corff drwy atgyfeirio, rhaglenni rheoli pwysau, atal cwympiadau, adferiad cardiaidd a llawer mwy.
Os oes gennych ddiddordeb i gael eich cyfeirio at eich rhaglen Atgyfeirio Iechyd lleol, cysylltwch â Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff neu eich meddyg teulu lleol i gael gwybod mwy.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Mae'r staff yn anhygoel a dweud y gwir mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gwybod fy enw i nawr, maen nhw mor gyfeillgar..
Sharon
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Diolch i’r staff i gyd am wneud i mi deimlo’n gartrefol a bod croeso i mi, rydych chi'n dîm anhygoel xx.
Sharon W
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 8.30-21.00 dydd Llun i ddydd Iau, 8.30-20.30 dydd Gwener a 9.00-16.30 ar benwythnosau.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ydym, mae gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau bob wythnos, megis Zumba, Metafit, Aqua fit, cylchedau a llawer mwy. Mae rhywbeth at ddant pawb!
Mae gennym neuadd chwaraeon fawr felly ‘does dim angen cadw lle ar gyfer y dosbarthiadau grŵp. Gallwch archebu’r neuadd chwaraeon neu drefnu parti trwy ffonio 01978 269540
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch, mae’r ganolfan nepell o First Avenue yng Ngwersyllt ac mae bysus yn rhedeg yn rheolaidd.
Mae gennym beiriannau gwerthu nwyddau a man eistedd lle gallwch weld y pwll.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!