Pwll Nofio
Mae nofio’n ffordd berffaith o dreulio amser gyda’r teulu, a chael ymarfer corff yr un pryd. Mae’n ffordd hwylus o ddysgu sgil sy’n achub bywyd a chreu atgofion gwych a fydd yn para oes!
Mae ein pwll 20 metr yn berffaith i ymlacio a dadflino ar ôl eich sesiwn ymarfer corff. Neu, gallwch ei ddefnyddio fel rhan o’ch cynllun ffitrwydd ac mae’n berffaith i deuluoedd hefyd.
Gwersi nofio
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein holl wersi yn ceisio datblygu nofwyr hyderus a chymwys drwy hwyl a mwynhad. Rydym yn anelu at y lefel uchaf o hyder yn y dŵr, ac o ran sgil a thechnegau nofio.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Mae’n swnio’n ystrydeb ond mae cael y cartref newydd hwn i ymarfer corff wedi bod yn chwa o awyr iach yn llythrennol i’m bywyd.
Graeme B
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Daliais y byg ffitrwydd yn gyflym a dechreuais fuddsoddi yn fy siwrnai ffitrwydd..
Lauren E
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Mae’r gampfa o’r radd flaenaf ar agor rhwng 17.00-22.00 nos Lun tan nos Iau, 17.00-21.30 nos Wener ac 8.00 – 12.00 ar benwythnosau.
Oes, mae digon o le i barcio.
Nid yma ar hyn o bryd ond gyda’r cynllun aelodaeth cysylltiedig gallwch fynd i ddosbarthiadau yng nghanolfannau eraill Wrecsam.
Ffoniwch ni ar 01978 262787 neu e-bostiwch clywedoglc@freedom-leisure.co.uk
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Nid yma ond rydym yn cynnig gwersi nofio yng Nghanolfan Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!