Y partïon plant gorau yn Wrecsam
Parti Pwll â Theganau Gwynt
Fedrwch chi rasio i gyrraedd llinell terfyn ein dingi anferthol ar y pwll? O £375 i 30 o bobl. £5.90 y pen am fwyd.
Parti Awr Fawr
Awr o hwyl yn y pwll ar ein rhaeadrau yn yr afon araf ac ar y llithren ddŵr, yna 45 munud yn ardal y caffi. Bocs bwyd parti wedi'i gynnwys! £11.50 y pen.
Parti Pwll â Theganau Gwynt a Bwyd
Rasiwch i’r llinell derfyn yn ein Ras Hwyl Dŵr ac ymlaen am fwyd yn ein caffi Costa. £12.50 y pen.
Oeddech chi’n gwybod?
Awst yw'r mis geni mwyaf poblogaidd, yn cynrychioli bron i 9 y cant o'r holl benblwyddi yn y byd.
Yn ystod y flwyddyn ers eich pen-blwydd diwethaf, mae'ch gwallt wedi tyfu bron i bum modfedd!
Y gân ‘Penblwydd Hapus’ yw’r gân fwyaf adnabyddus yn yr iaith Saesneg yn ôl y Guinness Book of World Records.
Nifer yr Oedolion i bob Plentyn yn ein partïon pwll
Rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn ar sail 2:1. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â 2 o blant o dan 8 oed i nofio yn ein canolfan.
Gall plant 8 oed a throsodd fynd i mewn i'r dŵr heb oruchwyliaeth oedolyn, ond rydym yn argymell bod pob plentyn sydd ddim yn gallu nofio yn cael eu goruchwylio bob amser gan oedolyn.
Mae gennym hefyd....
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Daw ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch gyda gofodau newid ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Ar ôl eich archeb, beth am aros ychydig yn hirach am ddiod neu fyrbryd?
Siop
Rydym yn gwerthu’r holl hanfodion y byddwch eu hangen ar gyfer eich partïon pen-blwydd yn y pwll, yn cynnwys gwisgoedd nofio, cewynnau nofio, gogls a chymhorthion nofio eraill.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym amrediad o becynnau aelodaeth gwych ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydy, mae sesiynau nofio i’r cyhoedd ar gael ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau ond gwiriwch ein hamserlen am fwy o fanylion.
Mae ein campfa fodern ar agor 6:30-21:30 o ddydd Llun i ddydd Iau, 6:30-21:00 dydd Gwener a 9-17:00 ar y penwythnosau
Oes, mae gennym ddigon o le parcio ar gael, sydd am ddim ar ôl 11yb.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gyda rhaglen amrywiol, yn cynnwys Les Mills. O BODYPUMP a Metafit i Aerobeg Dŵr ac Oedolion Actif, mae rhywbeth i bawb ac mae ein tîm elît o hyfforddwyr yno i'ch helpu ar eich taith.
Ar gyfer Ymarfer Grŵp, gallwch ddefnyddio'r Ap Symudol ‘MyWellness’ neu ffonio 01978 297300. Nid oes angen archebu lle ar gyfer nofio.
Oes, mae gennym yr App MyWellness ar gyfer y gampfa ac archebu ymarfer corff grŵp a byddwn yn lansio ap newydd yn y dyfodol agos!
Ydym, mae ein dosbarthiadau Dysgu Nofio hynod boblogaidd ar gael ar gyfer pob gallu. Ymholwch yma os gwelwch yn dda.
Gallwch, rydyn ni o fewn ychydig funudau ar droed o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen iâ, brechdanau, opsiynau iach a llawer mwy.
Mae ein Haelodaeth Iau yn dechrau o 11 mlwydd oed. Gall pob oedran ddefnyddio'r pwll ond mae’n rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion i bob plentyn.
Cynigiwn dri phrif fath o bartïon: y Parti Pwll â Theganau Gwynt, y Parti Awr Fawr a'r Parti Pwll â Theganau Gwynt a Bwyd.
Gall ein Partïon Pwll â Theganau Gwynt groesawu hyd at 30 o bobl am bris sylfaenol o £330. Codir tâl ychwanegol am fwyd am £5 y pen.
Ymunwch â ni am amrediad o bartïon gwych i blant yma yn Byd Dŵr, Holt Street, Wrecsam, LL13 8DH. Os yw'n well gennych gynnal parti ar dir sych, mae ein chwaer-safleoedd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yn cynnig opsiynau eraill fel partïon pêl-droed 3G a Nerf.
Syml! Gadewch y cyfan i ni. Rhowch alwad heddiw i'r tîm yn Byd Dŵr a byddwn yn gofalu am y gweddill.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!