Cynllun sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer Corff (NERS). Cafodd ei ddatblygu i safoni cyfleoedd atgyfeirio pobl i gael ymarfer corff ar draws Cymru. Mae’r cynllun yn targedu cleientiaid sydd â chlefyd cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd o’r fath.Adferiad Cardiaidd
Gall y cynllun eich helpu i ddod yn fwy egnïol os ydych mewn perygl o ddioddef iechyd gwael neu os oes cyflwr arnoch eisoes a chithau’n dioddef o un neu fwy o’r cyflyrau canlynol:
Bydd y cleientiaid yn cael eu hatgyfeirio gan Feddyg Teulu neu Ymarferydd Iechyd, felly os teimlwch y byddech chi’n cael budd o ymuno â’r cynllun yma, gofynnwch i’ch Meddyg Teulu
Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth i ymarfer i’r rheiny y cafwyd, yn dilyn asesiad gan eu gweithiwr iechyd proffesiynol, eu bod yn dioddef â phoen gronig yn rhan isaf y cefn.
Cynhelir y sesiynau hyn ddwywaith yr wythnos, ac maent yn darparu rhaglen ymarfer ar sail tystiolaeth, wedi’i chynllunio i wella symudedd, gydag ymarfer ysgafn i osgo da, cryfhau’r cyhyrau sy’n cynorthwyo’r cefn a helpu cymalau sy’n anghyfforddus ac wedi cyffio i symud unwaith eto.
Os oes clefyd coronaidd y galon arnoch, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn rhaglen Adfer Cardiaidd y Galon Cyfnod IV NERS. Rhaglen ymarfer 16-wythnos llawn hwyl i bobl fel chi sydd yn dymuno byw bywyd iachach yw hon.
Os ydych wedi ymarfer yng Nghyfnod III rhaglen Adfer Cardiaiddd y Galon, neu os yw eich Meddyg Teulu’n dweud eich bod chi’n cyflawni’r meini prawf, gallech ddod i ymuno â phobl debyg i chi a’n hyfforddwr cymwys yn ein dosbarthiadau.
Hoffech chi...
Darganfod cefnogaeth a syniadau i newid eich arferion bwyta a’ch dull o fyw. Mae gennym Raglen Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff 16 - 32 wythnos sy’n ceisio eich annog i ddod yn fwy egnïol
I fynychu’r rhaglen NERS - Ymarfer a Rheoli Pwysau, mynnwch air gyda’ch gweithiwr Iechyd proffesiynol. Mae Hyfforddwyr Arbenigol Cymwysedig ym maes Rheoli Pwysau yn gyfrifol am arwain y rhaglen.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r dderbynfa neu siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu’ch Ymarferydd Iechyd heddiw.