Ein Cae Glaswellt Artiffisial
Mae ein cae glaswellt artiffisial yn un o'r gorau yn y rhanbarth. Mae'n un maint llawn felly gellir ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed neu hoci. Hefyd gellir rhannu'r maes i roi meysydd pêl-droed 5 neu 7 bob ochr.
Mae gan y maes y llifoleuadau gofynnol i'w ddefnyddio gydol y flwyddyn yn ystod oriau agor y ganolfan.
Ein Ardal Gemau Aml-ddefnydd
Gall y ardal gemau aml-ddefnydd ddarparu lle ar gyfer yr holl chwaraeon traddodiadol byddech yn eu disgwyl, gan gynnwys:
- Tenis
- Pêl-droed
- Pêl-rwyd
- Pêl-fasged Awyr Agored
Nid oes llifoleuadau yn yr ardal hon ar hyn o bryd, felly ni ellir eu defnyddio yn ystod oriau tywyll.
Sut I Archebu
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynnig cyfleusterau awyr agored fforddiadwy sy’n hygyrch i bawb. Ni yw un o’r ychydig glybiau ble y gallwch archebu a ‘thalu a chwarae’ heb aelodaeth fisol. Mae ffioedd llogi yn ddibynnol ar y gweithgaredd, hyd yr amser, ac oedran y cwsmer.
Chwarae’n Achlysurol
Rydym yn un o’r ychydig ganolfannau yn yr ardal sy’n caniatau chwarae achlysurol. Byddwch yn talu ffi fesul y person i logi draw a’r unig beth ar ôl i’w wneud yw chwarae!