Hoffech chi wario llai ond ddyfod yn ffit fis Tachwedd hwn? Beth am ymuno â’n cymuned iach ddydd Gwener Du hwn a mwynhau 3 MIS AM DDIM* neu DIM FFI YMUNO**

Wrth fanteisio ar gynigion aelodaeth dydd Gwener Du y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau Freedom Leisure yn eich ardal. Llenwch y ffurflen isod neu gysylltu â’ch canolfan leol am ragor o fanylion! Fyddwch chi’n ymuno â’n cymuned iach ddydd Gwener Du hwn?

Fyddwch chi’n ymuno â’n cymuned iach y Dydd Gwener Du hwn?

BRYSIWCH, DIM OND TAN 1 RHAGFYR 2025 Y BYDD Y CYNIGION HYN AR GAEL!

This promotion is currently not live

Telerau ac Amodau mewn grym*Mae'r hyrwyddiad 12 MIS yn ddilys ar gyfer aelodaeth flynyddol - 12 mis am bris 9 – (wedi'i gyfrifo trwy luosi'r gyfradd fisol gyffredinol â 9 mis ar gyfer eich categori aelodaeth dewisol). Bydd prisiau a gostyngiadau'n amrywio oherwydd amrywiadau prisiau rhanbarthol a gwahanol gategorïau aelodaeth.

** Aelodaeth fisol – ‘Dim Ffi Ymuno’ – Mae ‘Dim Ffi Ymuno’ yn cyfeirio at eich ffi ymuno cychwynnol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer aelodaeth fisol.

  • Bydd y cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn eich aelodaeth yn amrywio yn ôl canolfan ac ni fydd pob categori aelodaeth yn berthnasol.
  • Mae pob aelodaeth yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau aelodaeth safonol.
  • Mae'r cynnig hwn ar gael i aelodau newydd yn unig.
  • Gall telerau ac amodau a gwaharddiadau lleol eraill fod yn berthnasol, gofynnwch i aelod o'r tîm
  • Daw'r cynigion i ben: 01/12/2025

Beth allwch ei ddisgwyl oddi wrth becyn aelodaeth Freedom Leisure?

Gyda phecyn aelodaeth Freedom Leisure rydych yn agor y drws i amrywiaeth eang o gyfleusterau ffitrwydd o’r radd flaenaf sy’n cynnwys sawl gym a hefyd mae pwll nofio yn y rhan fwyaf o ganolfannau yn ogystal â dosbarthiadau ymarfer grŵp, chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored, gweithgareddau i blant a llawer mwy!

Mae gan bob un o’n canolfannau becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i’w cymunedau. Rydym yn ymfalchïo yn ein nwyddau a’n gwasanaethau. Maen nhw’n hygyrch, fforddiadwy ac o ansawdd uchel a gall yr holl gymuned eu mwynhau. Rydym yn ddiragfarn ac yn agored i bob oedran a lefel ffitrwydd.

Pam manteisio ar ein cynigion gym dydd Gwener Du?

Gyda Gŵyl y Nadolig ar ein gwarthaf, mae ein cynigion dydd Gwener Gwario yn ffordd wych o arbed arian, fel y byddwch yn gwario llai ond yn parhau i gael mynediad anhygoel at ein cyfleusterau iechyd a llesiant ffantastig. Felly, pam aros? Dewch i ymuno â’n cymuned iach, yn dilyn gormodedd y Nadolig, mewn gym heddiw!