£0 FFI YMUNO – SYMUDWCH MWY AM LAI!
Nawr yw’r amser i ymuno â'ch canolfan hamdden gymunedol leol
- Campfa fodern
- Mynediad i bwll nofio
- Ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff.Cymuned gyfeillgar a chefnogol
Am gyfnod cyfyngedig, talwch ffi ymuno o £0.00 a dechreuwch eich taith ffitrwydd heddiw.
Defnyddio’r gampfa
Defnyddio’r gampfa
codi, rhedeg, seiclo, dro ar ôl tro
Pwll nofio
Pwll nofio
ymlacio ôl ymarfer neu ymdrechu i nofio’n ôl ac ymlaen
Dosbarthiadau ymarfer grŵp
Dosbarthiadau ymarfer grŵp
o HIIT egni uchel i sesiynau ymlacio gyda yoga
Cymuned
Cymuned
Cymuned leol i’ch cymell ymlaen
Telerau ac Amodau
- Ymunwch ag aelodaeth gymwys Freedom Leisure yn ystod y cyfnod hyrwyddo a chaiff y ffi ymuno safonol ei hepgor. Gall ffioedd ymuno amrywio rhwng canolfannau, gwiriwch gyda’ch canolfan hamdden Freedom Leisure leol cyn prynu.
- Dim ond cwsmeriaid newydd sy’n gymwys am y cynnig yn ystod cyfnod yr ymgyrch.
- Mae’r cynnig yn ddilys rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2026 yn gynwysedig.
- Ni fydd aelodaeth sy’n cael ei phrynu y tu allan i’r cyfnod hwn yn gymwys am yr hyrwyddiad.
- Ar gael i aelodau newydd dros 16 oed a hŷn oni bai y nodir yn wahanol gan y math o aelodaeth.
- Mae’r hyrwyddo yn gymwys i becynnau aelodaeth dethol yn unig.
- Gallai aelodaeth eithriedig gynnwys aelodaeth dalu-wrth-ddefnyddio, aelodaeth fyr dymor, aelodaeth gorfforaethol, aelodaeth gonsesiynol, aelodaeth myfyriwr/ iau neu unrhyw fath arall o aelodaeth a nodir gan y ganolfan. Gwiriwch gyda’ch Canolfan Hamdden Freedom Leisure leol am opsiynau aelodaeth gymwys.
- Mae pob ffi tanysgrifiad aelodaeth gymwys yn parhau’n daladwy.
- Mae’r hyrwyddiad yn hepgor y ffi ymuno yn unig ac nid yw’n effeithio ar daliadau debyd uniongyrchol misol, ffioedd aelodaeth blynyddol, ffioedd gweinyddu neu unrhyw daliadau eraill oni bai y nodir hynny’n benodol.
- Nid oes modd trosglwyddo’r cynnig ac ni ellir ei newid am arian parod, credyd neu unrhyw gynnig arall.
- Ni ellir defnyddio’r hyrwyddiad ar y cyd ag unrhyw hyrwyddiad aelodaeth arall, disgownt, cymhelliad neu gynnig oni bai bod Freedom Leisure yn nodi hynny’n benodol.
- Mae pob aelodaeth yn parhau’n amodol ar Delerau ac Amodau Aelodaeth Freedom Leisure sy’n parhau i fod yn gwbl gymwys.
- Wrth ymuno, mae aelodau’n cytuno i gydymffurfio gyda holl reolau’r ganolfan, polisïau’r ganolfan ac amodau aelodaeth y ganolfan.
- Bydd unrhyw hawliau gohirio statudol a thelerau gohirio aelodaeth oddi fewn i gytundeb cymwys yr aelodaeth yn parhau i fod yn gymwys.
- Mae’r hyrwyddiad yn amodol ar argaeledd a gall gael ei dynnu yn ôl, ei ddiwygio neu ei estyn ar unrhyw adeg heb rybydd o flaen llaw pan fo’n rhesymol angenrheidiol.
- Deil Freedom Leisure ar yr hawl i wrthod, tynnu yn ôl neu adfer buddion yr hyrwyddiad pan fo amheuaeth o weithgaredd twyllodrus, camddefnydd neu dorri ar y telerau hyn.
- Mae penderfyniad Freedom Leisure ynghylch unrhyw agwedd o’r hyrwyddiad yn derfynol.