Gall teuluoedd sy’n chwilio am ffyrdd fforddiadwy i gadw'n actif yr haf hwn elwa ar amrywiaeth eang o weithgareddau am £1 y pen yn unig wrth i Freedom Leisure lansio ei ymgyrch newydd ‘Ysgol Wedi Cau. Amdani!’ ar draws y canolfannau hamdden sy'n cymryd rhan.

Yn rhedeg trwy gydol gwyliau’r ysgol, mae’r cynnig yn rhoi cyfle i deuluoedd fwynhau gweithgareddau fel badminton, pêl picl, tennis bwrdd a chwaraeon a gweithgareddau penodol eraill heb chwalu cyllideb y cartref.

Gan fod llawer o deuluoedd yn teimlo pwysau costau cynyddol gwyliau ysgol, mae Freedom Leisure yn annog pobl i fanteisio ar eu canolfan hamdden leol, treulio amser o ansawdd gyda’i gilydd a darganfod gweithgareddau newydd y gall pawb eu mwynhau. Mae'r ymgyrch wedi'i chreu i wneud amser hamdden yn hygyrch, fforddiadwy a difyr, boed teuluoedd yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd am y tro cyntaf neu'n chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud yn ystod y gwyliau.

Rydyn ni'n gwybod y gall gwyliau'r haf fod yn gyfnod costus i deuluoedd ac roeddem am greu rhywbeth sy'n ei gwneud hi'n haws i bawb gadw'n actif gyda'i gilydd heb boeni am y gost. Mae ein canolfannau hamdden wrth galon eu cymunedau ac mae'r ymgyrch hon i gyd am ddod â phobl at ei gilydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chreu atgofion am byth. Am ddim ond £1 y person, gall teuluoedd fwynhau amser gyda'i gilydd, cael hwyl a darganfod popeth sydd gan eu canolfan hamdden leol i'w gynnig.

Ivan Horsfall Turner

Prif Swyddog Gweithredol, Freedom Leisure

Mae ymgyrch Ysgol Wedi Cau. Amdani! ar gael mewn canolfannau Freedom Leisure sy'n cymryd rhan trwy gydol gwyliau'r ysgol, gyda gweithgareddau a'r hyn sydd ar gael yn amrywio yn ôl lleoliad.