Panto returns in December 2025 to Penyrheol Theatre and this year It's An Act will be bringing the much loved story of Sleeping Beauty to life with both a family edition and an adult special!

Pantomeim i’r Teulu

Pantomeim i’r Teulu

Mae It’s an Act yn dychwelyd i Theatr Penyrheol gyda’u strafagansa pantomeim blynyddol, ac eleni maent yn dod â chwedl hyfryd Sleeping Beauty yn fyw.

Bydd y perfformiadau i’r teulu oll unwaith eto yn llawn dop o’r union bethau sydd wedi gwneud y sioeau hyn mor boblogaidd gyda’n chynulleidfaoedd yn tyfu a thyfu. Bydd gennym stori gyffrous yn llawn hwyl, sgetshis gwallgof, brawddegau doniol, effeithiau arbennig ysblennydd a gwisgoedd gwych.

Cofiwch - yn ein pantomeimiau rydych chi'n rhan o'r hwyl! Gallwch ymuno yn yr hwyl gyda digon o ryngweithio â'r gynulleidfa, gan gynnwys canu caneuon, sgetshis gyda chyfle i ymuno, a hyd yn oed tynnu hunlun yn ystod y sioe. Peidiwch ag anghofio cuddio a sgrechian wrth i’n Fonesig beryglus gael ei gollwng yn rhydd gyda’r pistolau dŵr!

Mae'r holl hwyl hwn i'r teulu ar gael am bris fforddiadwy sy'n golygu mai hwn yw'r pantomeim teulu gyda’r gwerth gorau o gwmpas yr ardal. Gwnewch yn siŵr bod tocyn ar gyfer Sleeping Beauty ar frig eich rhestr Nadolig!

Bydd ein sioe'n fyw ddydd Sadwrn 20fed, dydd Sul 21ain, dydd Mawrth 23ain a dydd Mercher 24ain Rhagfyr.

Pantomeim i Oedolion

Pantomeim i Oedolion

Mae It’s an Act yn dychwelyd i Theatr Penyrheol gyda’u strafagansa pantomeim blynyddol Sleeping Beauty, ac eleni maen nhw’n dod â stori chwantus yn fyw a fydd yn gadael pawb mewn clymau!

Bydd ein sioeau i oedolion unwaith eto yn llawn dop o’r union bethau sydd wedi gwneud y sioeau hyn mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd.

Bydd gennym stori gyffrous yn llawn hwyl, gwiriondeb a budreddi, a fydd yn cynnwys arferion gogleisio’r asennau, caneuon anweddus, a digon o frawddegau doniol. Mae'n wirion ac yn ddi-chwaeth felly byddwch yn barod!

Mae tocynnau ar gyfer ein panto poblogaidd i oedolion yn unig fel arfer yn gwerthu allan, felly peidiwch â cholli allan, a gwnewch yn siŵr bod tocyn ar gyfer Sleeping Beauty ar frig eich rhestr Nadolig!

Bydd ein sioe oedolion ar ddydd Sadwrn, 20fed Rhagfyr.