Mae llawer o gynllunio wedi cael ei wneud i sicrhau ein bod yn diwallu cyfarwyddyd diogelwch COVID fel y pennir gan y Llywodraeth, fel y gallwn ddarparu awyrgylch diogel a sicr i bawb sy’n defnyddio ein canolfannau.
Os ydych yn aelod sy’n talu am ffitrwydd, dysgu i nofio neu fath arall o aelodaeth, gallwn warantu na fyddwch yn colli allan os bydd angen i ni gau
Os gorfodir ein canolfannau i gau oherwydd cyfnod clo lleol neu genedlaethol, fe fyddwn yn sicrhau na fyddwch yn gorfod talu am wasanaeth os na allwch ei ddefnyddio.
Rydym eisiau rhoi’r ‘hyder a’r sicrwydd’ i bawb i ddefnyddio ein Canolfannau nawr ac yn y dyfodol.
Os oes rhaid i ni gau, fe fyddwn mewn cysylltiad gyda chi i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd gyda’r taliadau felly peidiwch â chanslo eich debyd uniongyrchol.
Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, fe fyddwn yn gohirio taliadau fel y gallwn ailagor eich aelodaeth fel ei fod dal yn fyw ac y gallwch ddychwelyd at fwynhau’r cyfleusterau yn eich canolfan leol.
Fe fyddwn yn aildrefnu unrhyw archebion bloc, cyrsiau neu bartïon pen-blwydd y talwyd amdanynt o flaen llaw ar gyfer dyddiad addas wedi ailagor.
Pan fyddwn yn gallu ailagor yn ddiogel, fe fyddwn yn cysylltu â chi fel y gallwch fynd yn ôl i’ch canolfan leol cyn gynted ag y gallwch.
Dyma amser pwysig lle mae angen i ni oll barhau’n weithgar ac actif i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol.
*Mae Amodau a Thelerau yn berthnasol: