Mae Freedom Leisure, yr ymddiriedolaeth hamdden elusennol, nid-er-elw blaenllaw sy’n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi mai Freedom Leisure yw’r gweithredwr hamdden cyntaf yng Nghymru i dderbyn Achrediad Aur oddi wrth Nofio Cymru a hynny am ei raglen dysgu Nofio yn Abertawe.
Achrediad Aur Nofio Cymru yw’r nod ansawdd uchaf i unrhyw weithredwr hamdden sy’n darparu rhaglen Dysgu Nofio yng Nghymru, ac mae’n gydnabyddiaeth am ragoriaeth am arfer gorau.
Mae’n arddangos fod sefydliad ar y blaen o ran llywodraethu, cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd wrth ddarparu addysg nofio rhagorol, gan fynd y tu hwnt i safonau sylfaenol diwydiant a chanllawiau diogelu.
Rydym wrth ein boddau o dderbyn Achrediad Aur oddi wrth Nofio Cymru am ein rhaglen dysgu nofio. Wrth gynnal partneriaeth gref gyda Nofio Cymru, mae hyn yn ein galluogi ni i ddarparu profiad ffantastig i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf a’u hyder gyda sgil gydol oes sy’n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol fel Abertawe.
Ivan Horsfall Turner
Mae darparwyr sydd ag Achrediad Aur yn adnabyddus am ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel ac o alinio gyda gweledigaeth Nofio Cymru o “sgiliau dŵr i bawb gydol oes”.
Mae Nofio Cymru yn falch i ddyfarnu’r Achrediad Aur i’n partneriaid campau dŵr Freedom Leisure yn Abertawe, y tro cyntaf i’r wobr hon gael ei dyfarnu i unrhyw weithredwr hamdden yng Nghymru. Mae’r llwyddiant hwn yn dangos ymrwymiad parhaus i ragoriaeth ym maes addysg nofio, gan sicrhau bod plant ac oedolion ar draws Abertawe yn cael mynediad at y safon uchaf o gyfleoedd i ennill sgil bywyd hanfodol. Mae ymroddiad Freedom Leisure i ddarparu profiadau diogel a phleserus yn y dŵr yn cyd-fynd yn llwyr â’n gweledigaeth o ‘Campau Dŵr i Bawb am Oes’ ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein perthynas gref.
Fergus Feeney
Mae Freedom Leisure yn rheoli canolfannau hamdden yn Abertawe ar ran cyngor y ddinas gan ymffrostio bod dros 4000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru, gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion i ddysgu ‘sgil gydol oes’, sef nofio.
Drwy ddod y gweithredwr hamdden cyntaf i ennill Achrediad Aur Dysgu Nofio Cymru, mae Freedom Leisure yn Abertawe yn arwain y gad o sut y dylai darparwr Dysgu Nofio Cymru fod yn gweithredu. Drwy gydol y cyfnod asesu maent wedi dangos eu hymrwymiad clir i ddarparu’r cynnig dysgu nofio o’r radd flaenaf i’w dysgwyr. Mae Freedom Leisure wedi cael ei wobrwyo ag Achrediad Aur am ei waith gwych yn Abertawe ac maent yn parhau i ymdrechu i ddatblygu ei raglen i ddarparu’r amgylchedd dysgu nofio gorau posibl i’w cwsmeriaid a’i gweithlu. Gobeithiwn y bydd hyn yn gosod esiampl a safon y bydd darparwyr eraill yn dyheu amdani a’i chyflawni.
Hanna Guise
Mae hwn yn gyflawniad gwych sy’n adlewyrchu ansawdd, ymroddiad a brwdfrydedd y tîm, sy’n helpu miloedd o blant ac oedolion lleol i ddatblygu’r sgil bywyd hanfodol o nofio. Mae’n galonogol gwybod bod ein canolfannau hamdden – a reolir gan Freedom Leisure ar ran y cyngor – yn darparu hyfforddiant sydd o’r fath safon fel ei fod yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. “Mae’r wobr hon yn tynnu sylw at gryfder ein partneriaeth â Freedom Leisure ac yn dangos sut yr ydym, gyda’n gilydd, yn darparu cyfleoedd sy’n elwa preswylwyr o bob oed ar draws ein cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd David Hopkins