Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden a diwylliannol elusennol nid-er-elw mwyaf blaenllaw y DU sy'n gweithredu dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, yn falch iawn o gyhoeddi bod Canolfan Hamdden y Waun wedi'i choroni'n 'Ganolfan Hamdden y Flwyddyn' yng Ngwobrau UK Active 2025.
Mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn amlygu safonau eithriadol, effaith gymunedol ac ymrwymiad i arloesi yn y maes iechyd a ffitrwydd. Yn dilyn proses ymgeisio drylwyr ac ymweliadau dirgel lluosog, gwnaeth y ganolfan argraff ar y beirniaid gyda'i hethos o wasanaeth rhagorol a'i hymroddiad i wasanaethu cymuned Wrecsam gyda balchder ac angerdd.
Mae Gwobrau UK Active yn dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiant hamdden, gan gydnabod sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles pobl. Mae cyflawniad y Waun yn dyst i genhadaeth barhaus Freedom Leisure i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n ysbrydoli ffyrdd o fyw egnïol ac yn hyrwyddo lles i bawb.
Rydym yn hynod falch ac mae’n anrhydedd i gael ein cydnabod yng Ngwobrau Active UK 2025. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad, angerdd a gwaith tîm pawb yng Nghanolfan Hamdden y Waun ac ar draws Freedom Leisure. Gyda'n gilydd, rydym yn ymdrechu i wella bywydau trwy gyfleoedd hamdden hygyrch, cynhwysol ac ysbrydoledig.
Ivan Horsfall Turner
Daeth y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn Birmingham, â sefydliadau blaenllaw o bob rhan o'r sector ynghyd i ddathlu'r bobl a'r mentrau sy'n gyrru cynnydd yn y maes iechyd, ffitrwydd a lles cymunedol. Mae Freedom Leisure yn falch o sefyll ymhlith y gorau yn y diwydiant wrth iddo barhau i hyrwyddo hamdden i bawb.