Y mis hwn, bydd Freedom Leisure, un o brif ymddiriedolaethau hamdden nid-er-elw’r DU sy’n rheoli dros 130 o ganolfannau hamdden ledled Cymru a Lloegr, yn cefnogi ‘Ailgychwyn Calon’ – menter genedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty
Bob blwyddyn, mae tua 30,000 o bobl sydd yn dioddef o ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty - – mae hynny oddeutu 84 o unigolion bob dydd. Ond mae cyfraddau goroesi yn isel, gyda dim ond un o bob deg yn cael adferiad.
Mae Cyngor Dadebru’r DU (RCUK) ac undeb o gymdeithasau cymorth cyntaf, yn cynnwys Cymdeithas Achub Bywyd Brenhinol y DU (RLSS UK) a chyrff elusennol a sector cyhoeddus eraill sy’n gweithio mewn cymunedau a sefydliadau hyfforddiant cymorth cyntaf, yn arwain yr ymgyrch.
Bydd Freedom Leisure yn cefnogi’r ymgyrch drwy gynnal gweithgareddau yn ei chanolfannau ar ddydd Iau 16eg Hydref, a fydd yn dysgu technegau sylfaenol achub bywyd gyda CPR a defnydd o ddiffibriliwyr i’w chwsmeriaid. Byddant yn defnyddio adnoddau wedi'u cynllunio a'u dosbarthu gan RLSS UK i sicrhau bod pobl yn meddu ar y sgiliau a'r hyder i berfformio CPR.
Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o Ailgychwyn Calon. Mae hwn yn ymgyrch pwysig iawn, mae'n gyfle i gymhwyso ein cymuned gyda'r hyder a'r sgiliau i achub bywydau fel y gwnaethom ar gyfer ein cydweithwyr ar draws y sefydliad gyda dros 600 o'n pobl wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf gan gynnwys sgiliau CPR a defnyddio diffibriliwr. Hoffem i'n holl gwsmeriaid ac ymwelwyr ddysgu CPR.
Ivan Horsfall-Turner
Rydym wedi bod yn cefnogi ymgyrch Ailgychwyn Calon ers nifer o flynyddoedd, ond rydym wedi bod yn annog gweithredwyr hamdden yn frwd i gymryd mwy o ran eleni, gan fod nifer yr unigolion nad ydynt erioed wedi dysgu CPR yn parhau i fod yn ofidus o uchel, ac mae'n sgil bwysig iawn i'w gwybod mewn unrhyw sefyllfa. Gobeithiwn, trwy gynorthwyo’r diwydiant hamdden i ledaenu’r negeseuon pwysig sy’n rhan annatod o’r ymgyrch Ailgychwyn Calon, y bydd mwy o bobl yn hyderus wrth ddelio ag argyfwng yn ddiogel.
Nick Grazier
I ddysgu mwy am ymgyrch Ailgychwyn Calon, ewch i www.rlss.org.uk/ neu i ddysgu mwy am sut i roi CPR, ewch i www.rlss.org.uk/learn-cpr.