Mae’r datganiad hwn yn nodi’r camau i’w cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ein busnes yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

ein strwythur

Freedom Leisure yw un o’r gweithredwyr hamdden cymunedol dielw mwyaf sy’n rheoli dros 95 o gyfleusterau yng Nghymru a Lloegr, mewn partneriaeth yn bennaf gydag awdurdodau lleol. Lleolir ein pencadlys yn East Hoathly, Dwyrain Sussex ac fe’n ffurfiwyd yn 2004. Mae ein helw blynyddol dros £70m ac rydym yn cyflogi dros 5,000 o staff. Nid oes gennym unrhyw weithgaredd masnachu y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Rydym yn elusen sydd wedi’i heithrio gan Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi er dibenion treth ac yn Gymdeithas Gofrestredig dan Ddeddf Cymdeithasau Buddiant Cymunedol a Chydweithredol 2014.

ein busnes

Ein prif amcan yw cynnig gweithgareddau hamdden a chwaraeon fforddiadwy ac o fewn cyrraedd i bawb yn y gymuned ac i wella bywydau trwy hamdden. Ein nod yw cael effaith bositif ar fywydau pobl trwy eu hysbrydoli i fod yn fwy actif, yn amlach ym mha bynnag ffordd y gallwn. Ein prif weithgaredd yw darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, yn hytrach na chyflenwi nwyddau.

our supply chain

Mae ein cadwyn cyflenwi yn cynnwys darparu nwyddau i ni gan sefydliadau eraill yn bennaf, ac maent oll wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig. Rydym angen y nwyddau hyn er mwyn cyflwyno ein gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Mae’r prif feysydd cyflenwi i ni yn ymwneud ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw, offer, glanhau, cyfleustodau ac arlwyo. Fel rhan o’n harolwg ar gyfer y datganiad hwn, rydym wedi dynodi fod rhai eitemau yn cael eu tarddu a’u canfod gan ein cyflenwyr o du allan i’r Deyrnas Unedig, megis gwisgoedd a rhannau cynnal a chadw.

Swyddogaeth ganolog yw caffael oddi wrth y cyflenwyr hyn sy’n gofyn am y defnydd o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo o flaen llaw sy’n golygu fod gennym ni reoliadau ar waith ar gyfer gwariant a ymrwymir a’r opsiwn hefyd i gwblhau archwiliadau diwydrwydd dyladwy ac ôl-weithredol.

Mae ein polisi caffael wedi’i ddylunio i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd gyfreithlon a moesegol. Rydym yn disgwyl i bob cyflenwr ymrwymo i gydymffurfio â’r holl gyfreithiau, rheoliadau a’n polisïau a thelerau cyflenwi. Rydym yn cymryd agwedd o ddim goddef cam-drin hawliau dynol, caethwasanaeth, llafur gorfodol na masnachu mewn pobl o gwbl. Bydd unrhyw gyflenwr a fydd yn methu â diwallu ein safonau yn peryglu eu gallu i fasnachu gyda ni ac efallai y byddwn yn peidio â masnachu gydag unrhyw gyflenwr o’r fath yn y pen draw.

diogelu

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r gymuned yn ein holl ganolfannau ac wedi nodi y gallai’r grwpiau mwyaf agored i niwed yn y DU o ran caethwasiaeth fodern gynnwys gweithwyr mudol, mewnfudwyr anghyfreithlon, ceiswyr lloches, pobl ddigartref, teithwyr a phobl sy’n dioddef o anawsterau dysgu. Mae gennym weithdrefnau manwl, dogfennau gweithredu a hyfforddiant ar gyfer diogelu eisoes ac rydym yn gweithio ar sut y gallwn addysgu’r gymuned a gredwn a all fod mewn perygl o gamdriniaeth.

ein staff

Mae polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol llym gan Freedom Leisure sy’n sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth ac yn sicrhau triniaeth deg a chyfartal, urddas yn y gwaith ac yn atal gwrthwahaniaethu. Mae ein polisïau a dogfennau gweithredu ar gael i’n holl staff ar ein mewnrwyd. Rydym yn annog yr holl staff i adrodd i ni am unrhyw weithgaredd y credant sydd yn torri unrhyw un o’n safonau neu bolisïau gweithredu.

diwydrwydd dyladwy

Rydym yn ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu mewn pobl mewn unrhyw ran o’n busnes. Fe fyddwn yn:

  • Dynodi ac asesu peryglon yn ein cadwyn cyflenwi a sicrhau cydymffurfiaeth gan ein cyflenwyr.
  • Darparu hyfforddiant i’n staff ar y peryglon hyn.
  • Diogelu chwythwyr chwiban.

David Talbut Signature

 

 

 

David Talbut - Freedom Leisure Finance Director | January 2021