Cynllun Hamdden Egnïol 60+
Mae llawer o'n gweithgareddau ar y cyd â'r cynllun hamdden egnïol 60+, sy'n fenter a ariennir gan Chwaraeon Cymru. Gweler gipolwg ar y gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen 60+ ar draws Abertawe.
- Dringo 60+ - Dydd Llun 10:30am (Canolfan Hamdden Abertawe)
- Taith gerdded iach – Dydd Llun 10:00am (Canolfan Hamdden Abertawe)
- Heini am Oes - Dydd Mawrth 11:15am (Bishopston)
- Cryfhau’r corff 60+ - Dydd Mawrth 14:00pm (Penlan)
- Pêl-droed Cerdded – Dydd Mercher 9:30am (Canolfan Hamdden Abertawe) a Dydd Iau 11:00am (Penlan)
- Aml-chwaraeon Aur – Dydd Mercher 11:00am (Canolfan Hamdden Abertawe)
*Mae gan weithgareddau sy'n rhan o'r cynllun hamdden 60+ gyfradd ostyngedig o £3 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.
Nofio Arian
Wedi'i ariannu gan Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cymru. Gall pobl dros 60 oed fwynhau sesiwn nofio am ddim yn ystod yr wythnos yng Nghanolfannau Hamdden Penyrheol, Penlan a Threforys
Chwaraeon
Mae gan ein canolfannau amrywiaeth o chwaraeon cerdded, tenis byr, aml-chwaraeon a pickleball fel rhan o'u rhaglenni
Dosbarthiadau Ffitrwydd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd effaith isel gan gynnwys aerobig dŵr
Caffis
Mae croeso i chi ddod i mewn am ddiod boeth gyda ffrindiau cyn neu ar ôl eich gweithgareddau, mae ein caffis yno i chi eu mwynhau!
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!