Sesiynau nofio am ddim penodol i fenter nofio am ddim Llywodraeth Cymru
I rai dan 16 oed (sblash am ddim) a phobl dros 60 oed (nofio arian) ym Mhenlan, Treforys a Phenyrheol.
Pasbort i Hamdden
Rydym yn cynnig cyfradd gostyngol ar draws ein holl weithgareddau i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd. Sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy.
Chwarae Meddal am ddim yn y Ganolfan Hamdden
Mae pob plentyn yn chwarae am ddim yn y Ganolfan Hamdden cyn eu pen-blwydd cyntaf
Plant yn Nofio am ddim
: Mae plant yn nofio am ddim ym mhob un o'n safleoedd cyn eu pen-blwydd cyntaf
Gostyngiadau i Aelodau’r Gampfa
Mae aelodau ein campfa yn derbyn gostyngiadau ar ein gweithgareddau eraill fel gweithgareddau iau.
Aelodau LTS ac Aelodau’r Gampfa yn Nofio am ddim
: Mae holl aelodau ein campfa a dysgu nofio yn nofio am ddim yn ystod cyfnodau nofio cyhoeddus, nofio mewn lonydd a nofio i blant bach ym Mhenyrheol, Penlan a Threforys. Ar ben hynny, gall aelodau gael mynediad am ddim i nofio plant bach, sblash cyffredinol a'r 2 awr olaf o bob sesiwn llawn yn y Ganolfan Hamdden.
Nofio Am Ddim y Lluoedd Arfog
Nofio am ddim gyda'ch cerdyn Gweinyddiaeth Amddiffyn yn ystod pob sesiwn nofio. Mae'r cynllun hwn ar gael i filwyr presennol a chyn-filwyr.
Banciau Nofio
Mae gennym flychau rhoi dillad nofio ac offer nofio yn y Ganolfan Hamdden, Penyrheol, Penlan a Threforys. Siaradwch ag un o'n rheolwyr safle i gael mynediad at y rhoddion hyn.
Caffis
: Mae ein canolfannau'n lleoedd cynnes, croesawgar a chymdeithasol. Caffis sy’n 'falch o wasanaethu Costa' yn y Ganolfan Hamdden, Treforys, Penlan a Phenyrheol
Urddas yn ystod Mislif
Rydym yn cynnig mynediad am ddim a hawdd i gynnyrch mislif ar draws ein canolfannau. Mae'r rhain ar gael mewn basgedi yn ein cyfleusterau newid a thoiledau menywod.
Cyfraddau Gostyngol
Rydym yn cynnig cyfraddau gostyngol i oedolion hŷn a phobl ifanc ar amrywiaeth o'n gweithgareddau. Siaradwch â'r tîm i gael gwybod mwy.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!