Mae'r gwyliau'r hanner tymor (31 Hydref i 4 Tachwedd) yn prysur agosáu ac rydym wedi bod wrthi’n llunio rhaglen sy’n llawn hwyl a sbri ar gyfer eich plant yn ystod y gwyliau. Rydym yn cynnig ein gwersylloedd aml-chwaraeon poblogaidd. Hefyd mae gennym ddewis o sesiynau hwyliog a bywiog eraill i ddifyrru’r teulu cyfan. Darllenwch beth arall sydd gennym ar y gweill.
gwersylloedd aml-chwaraeon i 6-12 oed.
Sesiynau chwaraeon a hyfforddi strwythuredig a ddarperir gan staff hyfforddi cymwysedig, gan gynnwys chwaraeon megis: pêl-droed, badminton, sboncen, tennis bwrdd a nofio (nofio ar gyfer plant dros 8 oed a throsodd yn unig).
Dydd Mawrth a Dydd Iau (Diwrnod Llawn). 9.00-16.00.
£20.00 y dydd llawn.
Gwisgwch ddillad chwaraeon, dewch â’ch dillad nofio, diod a phecyn bwyd.
Rhaid cadw lle. Ffon 01597 824249.
castell gwynt a sesiynau chwarae
Rhowch gyfle i’r plant a’u ffrindiau i losgi eu hegni ar ein castell gwynt a chyfarpar chwarae.
Ar gyfer plant dan 8 oed. Bydd angen goruchwyliaeth rhieni trwy gydol y sesiwn.
Dydd Llun a Dydd Gwener, 11.00-13.00.
DIM OND £3.50 y plentyn
Rhaid cadw lle. Ffon 01597 824249.
gwersi nofio dwys
9.00-9.30am: Dechreuwyr. 9.30-10.00am: Canolradd
Dydd Llun i Dydd Gwener.
£30.00 y cwrs.
Rhaid cadw lle. Ffon 01597 824249.
sesiynau rhediad dŵr chwyddadwy
Dydd Mercher, 13.30-14.30.
£4.60 y plentyn.
Rhaid cadw lle. Ffon 01597 824249.
gwersi deifio
Dydd Llun, 10.15-11.00.
£4.50 y plentyn.
Rhaid cadw lle. Ffon 01597 824249.
Dewch draw i gael hwyl!
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â Chanolfan Chwaraeon Llandrindod Wells, Ffôn: 01597 824249