Mae ein clwb Gymnasteg cael ei redeg gan hyfforddwr cwbl gymwys yn unol â safonau Cymdeithas y Gymnasteg Prydain. Bydd disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys y trawst, trampet, bwrdd sbring a'r bocs. Mae'r holl wersi yn digwydd ar faes sydd efo matiau a crash matiau ar gael os oes angen. Mae cyrsiau yn rhedeg yn unol â'r tymor ysgol. Mae'n hanfodol cadw lle gan fod llefydd yn gyfyngedig.
Mae ein grwp dechreuwyr yn dechrau o 5 mlwydd oed. Byddent yn dysgy i gynhesu, ymestyn a datblygu sgiliau gymnasteg sylfaenol. Byddent hefyd yn dysgy cydbwysedd, cydsymud a defnuddio ein cyfarpar gymnsteg i symud ymlaen i'r lefel nesaf.
Bydd y grwp hwn yn datblygu sgiliau sylfaenol a symud tuag at lefel uwch. Byddant yn datblygu eu cryfder a hyblygrwydd i ddysgy wneud symudiadau mwy heriol. Bydd pob gymnast yn dysgu gweithio yn annibynnol yn ogystal a gweithio o fewn awyrgylch grwp.
Yn y grwp hwn, bydd y plant yn dysgu ystrwythder mwy datblygiedig. Byddant yn ymarfer symudiadau unigol ac yn dysgu i gysyllty symudiadau gyda'i gilydd i ffurfio rwtin llawr.