Dosbarthiadau ar alw
Er bod eich canolfan hamdden yn cymryd seibiant hir dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae’n braf dweud y gallwch barhau i fod yn actif dros y gwyliau trwy lwytho ap Freedom Leisure a manteisio ar gannoedd o’ch hoff ddosbarthiadau ffitrwydd Les Mills!
Y cyfan sydd angen ei wneud yw mynd i’r siop Apiau o’ch dewis a chwilio am ‘Freedom Leisure’ NEU glicio ar y ddolen hon: http://bit.ly/3BLL1lW
Yna, agorwch yr Ap a chwilio am unrhyw un o’r canolfannau hamdden canlynol ym Mhowys: Canolfan Hamdden Aberhonddu, Canolfan Hamdden Rhaeadr, Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais, Canolfan Hamdden y Flash, Canolfan Hamdden Maldwyn.
Byddwch wedyn yn cael eich arwain i’r sgrîn hafan lle bydd angen i chi glicio ar y deilsen ‘On Demand Classes’ lle byddwch yn gallu ffrydio’r holl ddosbarthiadau fyddwch eu hangen – y cyfan yn syth i’ch cartref.
Gallwch ddefnyddio unrhyw ddyfais symudol a chymryd rhan lle bynnag y byddwch!
Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd hapus ac iach. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 pan fydd canolfannau Powys yn ailagor eto.