Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig, hyfryd Abertawe ac mae ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed. Mae’r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a thro cyntaf oherwydd bod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y ras eto, mae ceisiadau rasio nawr ar agor yma.

Os ydych wedi cofrestru yna rydym yn cynnig tocyn 7 diwrnod AM DDIM i chi a fydd yn rhoi'r cyfle perffaith i chi drefnu eich hyfforddiant a gosod her i chi'ch hun cyn y ras 10k! Gellir defnyddio'r tocyn 7 diwrnod ar draws ein canolfannau yn Abertawe yn yr LC, Penlan, Penyrheol, Treforys, Cefn Hengoed a Llandeilo Ferwallt ar gyfer y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Eisiau darganfod mwy?

Llenwch eich manylion isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi:

Enquire form related image

Cofrestrwch eich diddordeb am docyn 7 diwrnod AM DDIM

Bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi yn fuan i'ch rhoi ar ben ffordd

Trwy glicio ar ‘cyflwyno’ rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion eich ymholiad

Telerau ac Amodau

  • Isafswm oedran o 11
  • Un treial y person mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
  • Mae cyfleusterau'r ganolfan yn amrywio - gwiriwch am ragor o wybodaeth
  • Rhaid cymryd 7 diwrnod yn olynol
  • Rhaid i'r treial ddechrau cyn 17 Medi 2023