Cefais ddiagnosis o Hodgkin’s Lymphoma, canser y gwaed ym mis Chwefror 2023. Cefais cemotherapi a radiotherapi drwy gydol y flwyddyn honno. Yn anffodus ym mis Chwefror 2024, daeth y canser yn ei ôl, a bu’n rhaid i mi gael rhagor o driniaeth yn cynnwys trawsblaniad bôn-gelloedd ym mis Awst, a oedd yn golygu aros yn yr ysbyty am 3 wythnos. Ar ôl cael fy rhyddhau o’r ysbyty ar ôl 3 wythnos o fod mewn un ystafell, roeddwn wedi gwanhau llawer, roeddwn hyd yn oed yn cael trafferth i fynd i fyny’r grisiau yn fy nhŷ ar ôl i mi ddychwelyd adref.
Roeddwn yn teimlo ar fy isaf yn gorfforol a doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Mae’n bendant fod yna gamsyniad ynghylch pobl yn colli pwysau pan fydd canser arnynt, ond yn anffodus wrth wella o’r driniaeth, cymryd llawer o feddyginiaeth a symud ychydig iawn, rydych chi’n magu pwysau, ac yn teimlo’n swrth .
Roedd pobl yn dweud wrtha’i am orffwys, a doedd dim hunan gymhelliant gen i i fynd am dro bach hyd yn oed. Roeddwn i’n teimlo’n sownd mewn twll. Doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau, a phan oeddwn i’n dechrau gwneud unrhyw beth, roeddwn i’n diweddu’n gwneud gormod, yn ‘ceisio rhedeg cyn cerdded’ fel roedd pawb yn ei ddweud wrtha i.
Ar ôl gweld f’ymgynghorydd, gwnaeth fy CNS fy nghyfeirio at Gynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), yn y gobaith y byddai’n helpu, ac rwy mor falch fy mod wedi gwneud hyn.
Es i am ymgynghoriad gyda’r hyfforddwr Kathy (a oedd yn hyfryd) ym mis Tachwedd a gweithio allan beth oedd f’anghenion. Roeddwn i am fynd i’r gym, ond gallwch fynd i sesiynau grŵp hefyd. Dechreuais yn ara’ deg yn fy sesiwn gyntaf o dan arweiniad Kathy, a phob wythnos gwnaeth hi ychwanegu ychydig mwy neu fy nghael i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Mae yna sesiynau strwythuredig i fynd iddynt, felly mae’n rhaid i chi gael amser ‘apwyntiad’, sy’n eich annog i gadw at drefn gyson. Dydw i ddim am fethu’r rhain nawr.
Roedd yr hyder a’r cryfder y gwnes i eu hennill mewn 4 wythnos yn unig yn anhygoel. Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth! Rydw i wedi cwblhau’r 16 wythnos ac yn parhau am 16 wythnos arall fel fy mod i’n datblygu trefn reolaidd.
Rwy’n annog unrhyw un sy’n cael trafferth i wybod ble i ddechrau i ofyn i’ch CNS neu Feddyg Teulu i’ch cyfeirio chi at y cynllun NERS – gallwch chi o leiaf roi cynnig arni!!
Rydw i ychydig yn rhagfarnllyd achos rwy’n rheoli canolfan sy’n cynnig hyn...ond mae’r profiad o fod ar yr ochr arall wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor wych yw’r cynllun!