Cadw’n Ffit Waeth Beth Fo’ch Diddordebau

Beth fyddwch chi’n ei gael?

Ein cydweithwyr cyfeillgar

Bob amser wrth law i'ch croesawu i Ganolfan Hamdden Maldwyn. Rydym yma i gynnig cyngor ar sut i gael y gorau o'ch ymweliad â'r gampfa.

Campfa eang â chyfarpar da

Mae ein hoffer yn gyfuniad o beiriannau fel melinau traed, traws-ymarfer a dringwyr ynghyd â pheiriannau ymwrthedd pwysau eraill sydd wedi'u cynllunio i hyfforddi…

Ardal ymestyn a chynhesu’r corff

Mae gennym le dynodedig i chi gan ei bod yn bwysig iawn ymestyn a chynhesu cyn ac ar ôl eich ymarfer.

Fe wnawn eich helpu i ddechrau

I'ch cynefino â'n campfa ac i gael y gorau allan o'ch ymweliadau, byddwn yn rhoi cyflwyniad byr i chi i'r gampfa. Dylech drefnu hyn gydag aelod o'r tîm ar eich…

Loceri a Chawodydd

Mae gan Ganolfan Hamdden Maldwyn gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â £1 ar gyfer eich locer!

Wyddech chi?

Wyddech chi?

Mae llai o risg datblygu cyflyrau hir dymor (cronig), fel clefyd y galon, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser, os yw pobl yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Mae ymchwil yn dangos fod gweithgaredd corfforol hefyd yn gallu hybu hunan barch, tymer, ansawdd cwsg ac ynni, yn ogystal â lleihau eich risg o stres, iselder clinigol, dementia a chlefyd Alzheimer.

Ein Oriau Agor

Ein Oriau Agor

Mae ein campfa ar agor 7 diwrnod yr wythnos

Dydd Llun, Dydd Mercher & Dydd Iau           6.00y.b.-10.00y.p.

Dydd Mawrth                                                 7.00y.b.-10.00y.p.

Dydd Gwener                                                    6.00y.b.-9.00y.p.

Dydd Sadwrn                                                7.00y.b.-4.30y.p.

Dydd Sul                                                   8.00y.b.-3.00y.p.