Ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn ac a oes diddordeb gennych i fod yn fwy heini ac actif?
Efallai nad oes llawer o hyder gennych ynghylch ymarfer corff, neu efallai eich bod heb fod yn actif am gyfnod, a heb wybod ble i ddechrau. Neu efallai eich bod chi eisoes yn cadw’n eithaf heini ac am ddal ati.
Pa ffordd bynnag, mae sesiynau AAA yn berffaith i chi!
Gallwch ddilyn eich cyflymder eich hun i fod yn actif wrth i’n hyfforddwyr hynod o gymwysedig roi cyngor i chi. Rydyn ni’n teilwra’r sesiynau i’ch anghenion, felly fyddwch chi byth yn cael eich gorfodi i orwneud pethau.
Amserlenni
Beth am roi cynnig arni, gan wneud ymarfer corff yn rhan rheolaidd o’ch ffordd o fyw?
Canolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd