I ddathlu Never Give Up Day 2022, byddwn ni’n rhannu taith ffitrwydd ysbrydoledig Rheolwr Cyffredinol Canolbarth Powys, Denise Hazelwood. Fel hyfforddwr ymarfer corff a oedd arfer bod yn y fyddin ac sy’n gweithio yn y diwydiant hamdden, mae iechyd a ffitrwydd yn rhan fawr o fywyd Denise. Fodd bynnag, roedd bywyd yn dechrau mynd yn drech ac felly aeth ati i ddechrau taith ffitrwydd dwys er mwyn teimlo’n well amdani ei hun y tu fewn a’r tu allan. Darllenwch stori Denise yma....

Dechreuodd taith Denise ar ôl taith seiclo â rhai o’i ffrindiau a diwedd perthynas hir dymor a’i gadawodd yn teimlo’n isel ac eisiau newid.

“Roedd pen blwydd pwysig ar fin digwydd ac roedd fy mhartner hir dymor newydd orffen gyda fi. Es i i seiclo gydag ychydig o ffrindiau a phrin y gallwn i seiclo. Gwnes i 5 milltir ac roeddwn i allan o wynt a gwnaeth hynny wirioneddol fy ypsetio i. Edrychais yn y drych a theimlo fod bywyd yn mynd heibio i mi a meddyliais, ‘Reit, rhaid i mi wneud rhywbeth yn ei gylch.’"

Er gwaethaf hanes Denise o weithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd, roedd y syniad o fynd i’r gym yn parhau’n heriol am ei bod hi’n teimlo embaras a siom amdani ei hun.

“Roeddwn i arfer mynd i’r gym yn hwyr iawn gyda’r nos, tua 9.00 neu 10.00 yn y nos, fel na fyddai pobl yn fy ngweld i.”

“Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi gadael fy hun i lawr, fy ngwybodaeth i lawr a fy niwydiant i lawr hefyd.”

Dechreuodd Denise drwy ddilyn cynllun ymarfer corff a maeth sylfaenol yn seiliedig ar ei gwybodaeth am iechyd a ffitrwydd. Er, mae hi’n awgrymu y dylai pobl heb gefndir mewn iechyd a ffitrwydd ac sydd am ddechrau ar eu taith ffitrwydd geisio cyngor proffesiynol y gallan nhw ymddiried ynddo ac uniaethu ag e, oddi wrth rywun sy’n deall ble maen nhw yn eu bywydau.

“P’un a oes gwybodaeth am iechyd a ffitrwydd gennych ai peidio, dim ond mor belled y gallwch chi arwain eich hun, felly mae’n bwysig cael cyngor oddi wrth rywun sydd â’r wybodaeth honno. Ymweld â’ch gym neu ganolfan hamdden leol, neu ddod o hyd i hyfforddwr personol yw’r ffordd gorau ymlaen er mwyn cadw eich taith i fynd. Mae angen hyfforddwr ar bob hyfforddwr.”

“Maen nhw’n eich ysgogi a’ch annog. Cefais fy ngwneud yn atebol fel fy mod yn gallu ysgogi fy hun yn gyson.”

Ymhen 18 mis, roedd Denise wedi colli 6 stôn a gostwng ei braster corff i 22% o 50%.

“Dywedais wrthyf fy hun am beidio â rhoi’r gorau iddi, beth bynnag fyddai’n digwydd.”

Er roedd yna heriau ac adegau heb anogaeth ar hyd ei thaith.

“Fe ddewch i ddysgu pwy yw eich gwir ffrindiau yn ystod eich taith ffitrwydd. Newidiodd fy ffordd o fyw yn sylweddol. Yn sydyn iawn, nid oeddwn y person oeddwn i arfer bod yn mynd allan i yfed a bwyta. Roeddwn i’n parhau i fynd allan, ond doeddwn i ddim eisiau yfed ac roedd fy niet yn eithaf cyfyngedig ar y pryd. Roedd rhai aelodau o’r teulu a rhai ffrindiau’n gefnogol ac eraill ddim. Roedd rhai yn mynd yn rhwystredig a daeth fy mherthynas newydd i ben oherwydd yr amserlen roeddwn yn ei dilyn. Roeddwn i am fynd i’r gym cyn unrhyw beth arall.”

Fodd bynnag, mae Denise yn pwysleisio ei fod “yn bwysig cadw i fynd a mynd drwy’r heriau hynny i weld y gwahaniaethau ac i wir gyflawni eich nod.”

Mae Denise yn credu’n gryf mewn cael nod bob amser, ymarfer yn gyson a chadw’r cymhelliant – er ei bod hi efallai wedi cymryd hyn i’r eithaf drwy herio ei hun i gystadlu mewn cystadleuaeth magu cyhyrau i newydd-ddyfodiaid! Mewn gwirionedd, cafodd ei choroni’n bencampwraig newydd-ddyfodiaid ffurf a chorffoledd dros 35 oed ym Mhencampwriaeth Magu Cyhyrau Ewropeaidd UFE yn Llundain ar ôl ei thrawsnewidiad dros 18 mis.

“Sydd jest yn wallgof achos, chi’n gwybod, does dim rhaid i chi wneud hynna! Efallai mai priodas neu ddigwyddiad teuluol yw’r nod, ond roedd y gystadleuaeth hon yn fy nghadw i fynd.”

“Ar ôl cyrraedd nod penodol [byr-dymor], byddwn yn rhoi gwobr i fy hun. Ar ôl cyrraedd pwysau penodol byddwn i’n prynu siaced oeddwn wedi bod ei heisiau ers amser hir, a byddai hynny’n fy nghadw i fynd hefyd.”

Felly, beth yw camau nesaf Denise wrth iddi hi barhau ar ei thaith ffitrwydd?

“Fy nghamau nesaf yw trosglwyddo fy ngwybodaeth i ffrindiau, teulu a chleientiaid. Rwy’ wedi diweddaru fy nghymwysterau a bellwch rwy’n hyfforddwr personol fy hun.”

“Rwy’ wedi dysgu bod yn rhaid i chi fod yn ymarferol a bod rhaid i chi gael bywyd! Mae’n wirioneddol bwysig cadw’r cydbwysedd iach hwnnw rhwng yr amser i chi eich hun, amser i’ch teulu a ffrindiau, a gwaith, ond eich bod hefyd yn mwynhau eich hun! Bwytewch y gacen, bwytewch y siocled, yfwch ddiod, ond yn gymedrol. Cofiwch ystyried y peth.”

“Faswn i ddim yn newid unrhyw beth am y byd.”