Fel rhan o ymddiriedolaeth hamdden nid-er-elw, Freedom Leisure, mae Canolfan Hamdden Aberhonddu wedi cydweithredu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Frycheiniog, Sied Dynion Aberhonddu, a Chanolfan Gwirfoddoli Aberhonddu i osod blychau nythu i Wenoliaid Duon yn y ganolfan hamdden. Wedi’i lleoli yn agos at Byllau Penlan, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, bydd y blychau nythu yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu yn helpu i fynd i’r afael â’r gostyngiad sylweddol yn niferoedd y Gwenoliaid Duon yn y DU, sydd wedi gweld dirywiad o 53% rhwng 1995 a 2016.
Dywed y tîm yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu fod y bartneriaeth hon yn rhan bwysig o Ymrwymiad Amgylcheddol a Chynaliadwyedd cyffredinol y sefydliad sy’n cynnwys targedu sero net ar draws yr holl weithrediad erbyn 2030. Mae’r sefydliad yn ymroddedig i wneud popeth y gall i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth byd-eang.
“Rydym i gyd yn llwyr ymwybodol fod y cyswllt hwnnw gyda natur yn darparu buddion pwysig i’n hiechyd a’n lles. Bydd y cydweithrediad hwn gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Frycheiniog a’i sefydliadau partner yn cyfrannu’n arwyddocaol tuag at alluogi hyn.”
Gwyn Owen, Rheolwr Ardal - Freedom Leisure Powys
Adar hedfan o faint canolig yw gwenoliaid duon, ac maen nhw’n ehedwyr penigamp. Adar y clogwyni a thyllau ydyn nhw ac fe fyddant yn defnyddio adeiladau’n aml yn y DU i nythu ynddynt. Yn anffodus, Ambr yw eu Statws Cadwraeth yn y DU ar hyn o bryd o ganlyniad i ddirywiad arwyddocaol mewn niferoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a ddyfynwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, 2022).
“Mae wedi bod yn ysbrydoledig i allu cysylltu Sied Dynion Aberhonddu gyda Chanolfan Hamdden Aberhonddu i wneud rhywbeth positif i’r gwenoliaid duon trwy Brosiectau Cysylltiadau Gwyrdd Powys. Mae cynnig mwy o leoedd i Wenoliaid Duon i nythu yn eu helpu i fridio’n llwyddiannus a gwyrdroi’r dirywiad yn eu niferoedd.”
Pauline Hill, Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt – Sir Frycheiniog
Prosiect cydweithredol yw Cysylltiadau Gwyrdd Powys rhwng yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt led led Powys sy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau bychain, tirfeddiannwyr a chynghorau lleol i weithredu er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gan greu rhwydwaith adfer natur ar draws y sir (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, 2022).
Bwriad Freedom Leisure Aberhonddu yw datblygu ymwybyddiaeth gymunedol ymhellach am y gwenoliaid duon trwy gynnig sgyrsiau addysgol gan gynrychiolwyr yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt mewn Dyddiau Gweithgareddau i Blant Iau yn y dyfodol.