Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun
-
Amseroedd Agor
- Dydd Llun 7:00 - 22:00
- Dydd Mawrth 6:30 - 22:00
- Dydd Mercher 7:00 - 22:00
- Dydd Iau 6:30 - 22:00
- Dydd Gwener 7:00 - 21:00
- Dydd Sadwrn 8:45 - 17:00
- Dydd Sul 8:30 - 16:30
Croeso i Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun
Freedom Leisure yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnig gwasanaethau hamdden i gymuned leol Y Waun. Pwll nofio, gwersi nofio, campfa o’r radd flaenaf, dosbarthiadau grŵp, neuadd chwaraeon, caeau 3G a mwy!
Cynnig 60 oed â hyn
Dewiswch ganolfan ar y ffurflen isod i ddechrau heddiw!Ein cyfleusterau
Lawrlwythwch ein Ap
Mae ein Ap yn hwyluso archebu dosbarthiadau a gweithgareddau yn gyflymach ac yn haws nac erioed. Ydych chi eisoes yn aelod neu wedi cofrestru ar gyfer archebu ar-lein? Lawrlwythwch ein Ap nawr! Heb gofrestru eto? Cysylltwch â’ch canolfan leol i gofrestru.
Ein Haelodaeth
Gweithgareddau ar y Gweill
Newyddion Diweddaraf
Iechyd i Bawb o Bob Oed
Rydym eisiau cefnogi iechyd y genedl gan alluogi pobl i fyw bywydau hirach, hapusach ac iachach.
Fel ymddiriedolaeth hamdden elusennol nid-er- elw, mae helpu unigolion a chymunedau i fod yn fwy actif ac yn iachach wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’, rydym eisiau i’n cymunedau lleol ni gael hwyl, cael eu croesawu a’u cynnwys a’u grymuso i fyw bywydau iach.
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 7.00-22.00 dydd Llun a dydd Mercher, 6.30-22.00 dydd Mawrth a dydd Iau, 7.00-21.00 dydd Gwener, 8.45-17.00 dydd Sadwrn a 8:30-16:30 dydd Sul.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ydym, mae gennym dros 20 o ddosbarthiadau’r wythnos gan gynnwys Les Mills. O BODYPUMP™ a Metafit™ i Aquafit™ a Ioga – mae rhywbeth i bawb.
Does dim angen cadw lle ar gyfer y dosbarthiadau ymarfer grŵp heblaw’r dosbarth troelli. I gadw lle ar gyfer y dosbarth hwn, a’r cae 3G a’r neuadd chwaraeon, galwch 01691 778666.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch. Mae yna safle bws ychydig cyn Lôn y Capel sydd ond tafliad carreg i’r ganolfan.
Oes, mae gennym ni beiriant coffi a gallwch gymryd eich paned i’ch canlyn neu ei fwynhau yn ein hardal eistedd. Mae yna beiriannau gwerthu yma ac mae diodydd oer ar gael.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Ymunais yn ddiweddar â Chanolfan Hamdden Y Waun i wella fy ffitrwydd ac i helpu gyda cholli pwysau. Mae Sarah wedi sefydlu rhaglen i mi ac rwyf….
Annette Turner
…ac wedi ennill hyder, fel y gwnes i hyd yn oed gymryd rhan yn y ras tough mudder! Rwyf yn gweld yr holl hyfforddwyr yn broffesiynol iawn..
Anonymous
Rwyf wedi bod yn aelod yn Y Waun am dros 20+ o flynyddoedd erbyn hyn. Ymunais i gael ffordd iachus o fyw ac ar hyd y ffordd, rwyf wedi gwneud….
Un o'n cwsmeriaid hapus
Rwyf yn fy 70au. Rwyf yn nofio yng Nghanolfan Hamdden Y Waun. Mae’r buddion yn wych, ac rwyf yn teimlo wedi fy nghefnogi’n llwyr gan y staff….
Anonymous
Ym mha ffordd rydyn ni’n mynd gam ymhellach yn Freedom Leisure?
Sut i ddod o hyd i ni a Pharcio
Mae’n hawdd teithio i’r ganolfan ac mae digon o le i barcio am ddim ar y safle. Mae’r ganolfan ger Llyfrgell Y Waun ac Ysgol Gynradd Y Waun. Mae’r safle bws ychydig cyn Lôn y Capel sydd ond tafliad carreg o’r ganolfan.
Rydym am gyflogi! Dewch i ymuno â’r tîm
Mae’r gwasanaethau hamdden yr ydym yn eu cynnig yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn gwneud gwir wahaniaeth i iechyd a llesiant pobl ar lefel leol iawn. Mae gweithio i Freedom Leisure yn eich galluogi chi i chwarae rôl gadarnhaol, leol iawn, a gwella bywydau drwy hamdden a gwneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned.